Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllideb gyda chyfnod heriol mewn golwg, yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Wrth drafod y gyllideb ddrafft, daeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad fod setliad gwell i lawer na'r disgwyl yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Fodd bynnag, dylai sefydliadau ddefnyddio'r arian a gaiff ei ddyrannu iddynt i baratoi at doriadau y byddant yn eu hwynebu maes o law.
Mynegodd y Pwyllgor ei bryder nad oedd y gwaith paratoi hwn yn cael ei wneud yn ôl pob golwg, ac anogwyd sefydliadau, yn arbennig sefydliadau'r gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, i sicrhau eu bod yn rhagbaratoi ac yn cynllunio er mwyn iddynt allu gweithredu gyda llai o adnoddau yn y dyfodol.
Mynegwyd pryderon pellach ynghylch GIG Cymru a'r ffaith nad oedd gan rai byrddau iechyd gynllun tair blynedd a oedd wedi cael ei gymeradwyo, er bod deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt weithredu'r cynllun ers 2014. Nod hyn oedd rhoi rhwydd hynt i fyrddau iechyd weithio'n fwy hyblyg â'u cyllideb, yn hytrach na glynu at amserlenni llym yn flynyddol.
Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn ddeddfwriaeth yr oedd y Pwyllgor yn disgwyl gweld cynnydd yn ei sgil, ond siomedig oedd y modd y bu i ofynion y Ddeddf gael eu hystyried yn y gyllideb ddrafft.
Mae'r Pwyllgor yn gobeithio gweld gwelliant mesuradwy yng nghyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Simon Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn setliad gwell nag yr oedd llawer wedi ei ddisgwyl, ond rhaid cofio cadw'r cyfnod heriol sydd i ddod mewn golwg.”
“Roedd y Pwyllgor yn siomedig i weld nad oedd llawer o sefydliadau wedi cynllunio â hynny mewn golwg, ac rydym yn eu hannog i baratoi'n briodol ar gyfer y cyfnod hwnnw.
"Roedd y Pwyllgor yn pryderu am nifer o fyrddau iechyd yn enwedig, sydd dal heb gynllun gwariant tair blynedd sydd wedi'i gymeradwyo, a hynny ddwy flynedd yn ddiweddarach i basio'r ddeddf a wnaeth hynny'n ofynnol.
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyfraith flaenllaw a basiwyd gan y llywodraeth flaenorol i wella bywydau pobl mewn sawl ystyr, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, cyfleoedd gwaith, y gymuned leol a'r amgylchedd.
“Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi'i siomi nad oedd gofynion y Ddeddf wedi cael eu hystyried yn y gyllideb ddrafft. Gobeithiwn weld gwelliant mesuradwy yn hynny o beth mewn cyllidebau yn y dyfodol.”
Caiff cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ei thrafod yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol yn y Senedd fis Rhagfyr. Cynhelir pleidlais arni bryd hynny.
Y Pwyllgor Cyllid - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 (PDF 1.97MB)