Cymru 2016 – Cofrestrwch a phleidleisiwch yn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai

Cyhoeddwyd 05/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/02/2016

 

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymuno â'r Comisiwn Etholiadol, y GIG, UCM Cymru, Youth Cymru a Bite the Ballot am ddigwyddiad arbennig ddydd Gwener 5 Chwefror i hyrwyddo'r Ymgyrch Genedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr.

Bydd 150 o bobl yn y Senedd yn canfod sut mae cofrestru i bleidleisio a beth mae eu pleidlais yn ei golygu cyn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai.

Ar y dydd bydd:

  • Blwch pleidleisio anferthol wedi'i lenwi ag aer y tu allan i'r Senedd
  • 'Gorsaf gofrestru' i bobl sydd eisiau cofrestru i bleidleisio
  • Tafluniad ar y Senedd gan Bite the Ballot
  • Gweithdai gyda grwpiau i'w hysbysu am sut mae'r Cynulliad yn effeithio ar eu bywydau a sut gallant wneud cyfraniad.

Mae'r digwyddiad hefyd yn cychwyn ymgyrch Cymru 2016 y Cynulliad i hyrwyddo gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol am yr etholiad sydd ar y gweill.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae annog mwy o bobl i bleidleisio wedi bod yn rhan allweddol o fy rôl fel Llywydd drwy ymgyrchoedd fel Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd.

"Yn 2011, daeth llai na hanner o'r pleidleiswyr cymwys yng Nghymru i fwrw eu pleidlais, ond mae pobl yn fuan iawn yn cymryd diddordeb yn y ffordd y dylai arian gael ei wario pan fydda' i'n dweud wrthyn nhw bod tua £16 biliwn yn cael ei wario ar bethau fel iechyd ac addysg.

"Mae datganoli yng Nghymru yn symud i oes newydd wrth i fwy o bwerau gael eu trosglwyddo yma, ac wrth i fwy o benderfyniadau gael eu gwneud yng Nghymru er mwyn Cymru.

"Felly, mae'n hanfodol bod pobl yn deall sut mae'r penderfyniadau y mae eu Haelodau Cynulliad etholedig yn y Senedd yn eu gwneud yn effeithio arnyn nhw bob dydd."

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol Cymru:

"Mae'n gyffrous cael cefnogi'r digwyddiad hwn ar gyfer yr Ymgyrch Genedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr. Mae'n gyfle gwych i rannu'r neges bod pobl ifanc, myfyrwyr, rhentwyr a phobl sy'n symud tŷ yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio.

"Mae'r ymgyrch hon yn bodoli oherwydd ei bod yn bwysig bod unrhyw sy'n gymwys i gofrestru, ond sydd heb wneud hynny, yn mynd ati i gofrestru. Mae'n hawdd a chyflym i wneud hynny ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

"Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cynnal gweithdy gwybodaeth i bleidleiswyr yn y digwyddiad hwn ac yn dod â blwch pleidleisio anferthol llawn aer! Mae digwyddiadau ar y cyd fel hyn, ochr yn ochr â'n hymgyrch codi ymwybyddiaeth ni a fydd yn cychwyn ym mis Mawrth, yn ffordd werthfawr o annog pleidleiswyr i gofrestru."

Beth Button, Llywydd UCM Cymru:

"Mae'r Ymgyrch Genedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr a phobl ifanc fod yn rhan allweddol o'n proses ddemocrataidd.

"Mae'n hynod bwysig bod pobl ifanc yn sicrhau eu bod yn codi llais drwy gofrestru i bleidleisio ac ethol ein Cynulliad nesaf."

Dywedodd Lizzy Fauvel, arweinydd yr ymgyrch yn Youth Cymru:

"Mae rhai pobl yn meddwl bod pobl ifanc yn ddi-hid am wleidyddiaeth, ond dyw hynny ddim yn wir.

"Mae angen addysgu pobl ifanc a dangos iddyn nhw faint y mae eu pleidlais yn cyfrif, a'r grym sydd ganddyn nhw os byddan nhw'n sefyll gyda'i gilydd.

"Pobl ifanc yw'r dyfodol ac mae angen eu gweld nhw fel adnodd yn hytrach na fel problem. Bydd yr ymgyrch hon yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan a deall gwleidyddol mewn ffordd ryngweithiol sy'n llawn hwyl!"

Drwy gydol wythnos yr Ymgyrch Genedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr, ac fel rhan o ymrwymiad parhaus y Cynulliad Cenedlaethol i gyfathrebu â chynulleidfaoedd newydd, bydd ei dimau addysg, ymgysylltu â phobl ifanc ac allgymorth yn cynnal sesiynau gyda grwpiau ledled Cymru, gan gynnwys:

Dydd Llun 1 Chwefror

  • Disgyblion Blwyddyn 13 – Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais

Dydd Mercher 3 Chwefror

  • Cardiff People First – Canton House
  • Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe
  • Disgyblion Blwyddyn 13 – Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd

Dydd Iau 4 Chwefror

  • Age Cymru Gwent - Gwasanaeth Gwirfoddolwr Robiniaid - Ysbyty Sant Gwynllŵg, Casnewydd
  • Coleg Gwent, Cross Keys
  • Blwyddyn 9, Ysgol Kings Monkton, Caerdydd

Dydd Gwener 5 Chwefror

  • Cyngor Ar Bopeth – Ynys Môn