Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r rhaniadau cynyddol yng nghymunedau Cymru.
Mae ei adroddiad newydd, 'Cyd-dynnu, nid tynnu'n groes: rhaid i Gymru weithredu' yn rhybuddio bod tensiynau cynyddol, gwybodaeth anghywir a gweithgarwch eithafol yn peryglu ymddiriedaeth y cyhoedd, diogelwch a democratiaeth.
Mae'r Pwyllgor yn dweud bod rhaid i Gymru weithredu nawr i ddod â phobl ynghyd, i amddiffyn mannau a rennir, ac i sicrhau bod pawb yn teimlo y cânt eu croesawu a'u clywed.
Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos pa mor gyflym y gall pethau fynd yn flêr. Mae terfysgoedd yn Nhrelái, protestiadau yn Llanelli, a ralïau gwrthwynebol yn y Drenewydd yn arwyddion clir bod cymunedau dan bwysau, a bod angen cefnogaeth arnynt.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Rydyn ni wedi gweld beth sy’n digwydd pan fydd cymunedau’n teimlo eu bod nhw’n cael eu hanwybyddu - mae pobl yn colli ymddiriedaeth, mae tensiynau’n codi, a gall pethau fynd yn waeth ac yn waeth. Rydym yn wynebu cymysgedd o heriau: gan gynnwys yr argyfwng costau byw, gwasanaethau cyhoeddus yn crebachu, a chynnydd peryglus o ran gwybodaeth anghywir a chasineb.
“Mae’n ddyletswydd arnom fel gwleidyddion i wynebu’r anfodlonrwydd sy’n mudlosgi ac a allai ffrwydro oni bai ein bod ni’n gweithredu.
“Mae enghreifftiau gwych i’w cael o gymunedau sy’n cydweithio, a gallwn ddatblygu y sylfeini hynny; ond nid yw hynny’n ddigon. Mae angen arweinyddiaeth arnom, mae angen gweithredu arnom, ac mae eu hangen arnom nawr.
“Mae pob rhanddeiliad yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru gydlynu ein hymdrechion ar y cyd i gael gwared ar y gwrthdaro a allai achosi anhrefn i’n cymunedau oni bai ein bod yn gweithredu.”
Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- Sefydlu grŵp arbenigol cenedlaethol erbyn canol mis Tachwedd i arwain gwaith brys ar ddod â chymunedau at ei gilydd.
- Diogelu mannau lleol drwy roi’r hawl i gymunedau gymryd perchnogaeth o adeiladau a thir sy’n bwysig iddyn nhw.
- Mynd i'r afael â gwybodaeth ffug ar-lein drwy ddefnyddio dulliau monitro amser real, a gweithio gyda lleisiau lleol dibynadwy.
- Cefnogi cyfranogiad y cyhoedd mewn gwneud penderfyniadau, fel bod pobl yn teimlo bod ganddyn nhw lais yn yr hyn sy'n digwydd yn eu hardaloedd.
- Ymateb i eithafiaeth gynyddol drwy ddeall beth sy'n digwydd ledled Cymru i helpu cymunedau i wrthsefyll casineb.
Mae'r Pwyllgor yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyflym, a gweithio'n agos gyda chynghorau, grwpiau cymunedol ac eraill i sicrhau bod y newidiadau hyn yn digwydd.