Cymru ddylai fod y 'genedl noddfa' gyntaf yn y byd ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd 06/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Cymru ddylai fod y 'genedl noddfa' gyntaf yn y byd ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fod un o bob 113 o bobl, yn 2016, naill ai'n ffoadur, wedi'i ddadleoli yn fewnol, neu'n ceisio lloches - nifer sy'n uwch na phoblogaethau'r Deyrnas Unedig, Ffrainc neu'r Eidal.

Yn 2016, wrth i’r gwrthdaro ddwysáu yn Syria, ac wrth i ansicrwydd ledaenu drwy’r gwledydd yn y rhan honno o'r byd, mae mwy o bobl wedi’u dadleoli yn y byd nag yn ystod unrhyw adeg arall mewn hanes.

"Mae'r newyddion parhaol, a delweddau a hanesion pobl sy'n dianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac a gwledydd eraill yn gwneud inni sylweddoli maint trasiedi'r digwyddiadau rhyngwladol presennol, ac mae'r hanesion mae pobl wedi eu hadrodd wrthym yn ystod yr ymchwiliad hwn wedi bod yn ddirdynnol ac yn dorcalonnus, ond hefyd yn rhai sy'n ysbrydoli," meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

“Fel clywodd y Pwyllgor, mae'n debygol bod y rhai sy'n goroesi'r gwrthdaro, teithiau ar draws y môr mewn cychod, masnachwyr pobl, a milltiroedd di-ri o deithio i gyrraedd y DU, gan gynnwys plant ar eu pennau eu hunain, wedi profi digwyddiadau trawmatig difrifol sy'n gadael creithiau seicolegol parhaus.

"Fel y dywedwyd wrthym, un ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun'. Mae'n hanfodol bod y cymorth cywir ar gael iddynt pan fyddant yn cyrraedd Cymru, er mwyn iddynt allu cymryd rhan lawn ym mywyd Cymru a byw bywydau llawn yn eu cymunedau newydd.

"Rydym wedi amlinellu'r hyn yr ydym yn credu eu bod yn feysydd allweddol i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl sydd wedi eu dadleoli. Wrth wraidd ein hadroddiad yw'r gred y gallai Cymru fod y genedl noddfa gyntaf yn y byd, gan atgyweirio peth o'r niwed sydd wedi cael ei wneud i bobl heb fod unrhyw fai arnynt hwy, a'u helpu i fod yn rhywun unwaith eto."

Hyd yn oed cyn i adroddiad y Pwyllgor gael ei gyhoeddi, mae ei waith wedi cael effaith ar y ffordd y caiff gwasanaethau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches  eu cynllunio a'u darparu. Ar ôl cael ei ysgogi gan ymchwiliad y Pwyllgor a'r dystiolaeth a glywyd ganddo, mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu rôl y Bwrdd Gweithrediadau y tu hwnt i'r rhaglen ar gyfer ffoaduriaid Syria i gynnwys yr holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Ac mae Clearsprings Ready Homes Ltd, sy'n gyfrifol am lety lloches yng Nghymru, wedi ymgysylltu â Chynghrair Ffoaduriaid Cymru ynghylch ansawdd y tai a'r weithdrefn gwyno.

Mae'r Pwyllgor am weld camau gweithredu pellach a dulliau strategol sydd wedi'u diweddaru a'u gwella, trwy adolygu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches.

Clywodd Aelodau fod plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches yn un o'r grwpiau plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru, maent yn aml mewn mwy o berygl o ddioddef cam-fanteisio, camdriniaeth, trais ar sail rhyw, a chael eu masnachu.

Maent am i Lywodraeth Cymru sefydlu gwasanaeth Gwarcheidwaeth ar gyfer  blant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, i sicrhau bod capasiti a gallu ar draws Cymru i gynnal asesiadau oedran, ac i bennu safonau gofynnol ar gyfer cymorth iechyd meddwl.

Er mwyn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio i gymunedau lleol, mae'r Pwyllgor yn credu y dylid ehangu rôl cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol. Mae hefyd am weld gwelliannau yn y ddarpariaeth o ran rhoi gwersi Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.

Hefyd, dylai fod rhagor o gefnogaeth i geiswyr lloches drwy gydol y broses geisio lloches, yn enwedig o ran mynd i'r afael â'u hanghenion tai. Mae'r Pwyllgor yn galw am fonitro a datrys cwynion ynghylch llety lloches, am gontract llety lloches ddiwygiedig, ac am sicrhau bod landlordiaid ceiswyr lloches wedi'u cofrestru a'u harchwilio.

Mae'r Pwyllgor hefyd am weld gwelliannau o ran y cyngor sydd ar gael yn ystod y broses geisio lloches.

Yn olaf, dylai'r gefnogaeth barhau ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches aflwyddiannus fel ei gilydd ar ôl i'r broses geisio lloches ddod i ben, drwy weithredu i atal amddifadrwydd, rhoi cymorth i helpu ffoaduriaid ddod o hyd i lety tymor hir, a gwell mynediad at addysg a chyflogaeth.

Bydd canfyddiadau'r pwyllgor nawr yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Adroddiad ar ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru (PDF, 1MB)