Mae Cymru mewn perygl o golli allan yn ariannol os bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn methu cydweithredu ar gyllid ar ôl gadael yr UE.
Mae adroddiad gan Bwyllgor Cyllid y Senedd yn galw am drafodaethau aeddfed ar bob lefel o lywodraeth er mwyn sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei ddyrannu‘n deg yng Nghymru.
Mae hynny'n gofyn am rôl glir i'r Senedd – a diwedd ar Lywodraeth y DU yn gweithredu mewn meysydd datganoledig heb ymgynghoriad digonol.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:
“Mae'r trefniadau cyllido newydd sydd wedi'u sefydlu ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn cynrychioli newid anferthol yn y ffordd y caiff arian ei ddyrannu i Gymru, a rôl Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y broses honno. Mae'n arbennig o bwysig yng Nghymru, o ystyried mai ni oedd derbyniwr mwyaf cyllid yr UE, yn ôl poblogaeth, o wledydd y DU.
"Ein prif bryder yw bod llwyddiant y cronfeydd newydd hyn yng Nghymru mewn perygl oherwydd diffyg cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nid yw ein partneriaeth yn ymwneud â rhannu arian ledled y DU yn unig - mae angen iddi ymwneud hefyd â rhannu syniadau a chyfrifoldebau.
“Er mwyn sicrhau bod y cronfeydd newydd hyn yn cael yr effaith fwyaf posibl ac yn cyrraedd y mannau cywir, mae angen dull aeddfed arnom. Gwelsom fod yr agwedd hon ar y trefniadau newydd yn ddiffygiol ar hyn o bryd.
“Mae gan y Pwyllgor bryderon o hyd o ran dull Llywodraeth y DU o ddefnyddio'r trefniadau newydd hyn i ariannu prosiectau mewn meysydd datganoledig, gan gamu heibio Llywodraeth Cymru a’r Senedd. Mae'n allweddol ein bod yn gweld ymgysylltu mwy cadarn rhwng pob haen o lywodraeth."
Roedd yr adroddiad - y cyntaf ar y pwnc hwn yn ystod y tymor seneddol hwn - yn ystyried tri chynllun ariannu newydd, sef y Gronfa Adfywio Cymunedol, y Gronfa Ffyniant Bro a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Nid oedd modd i'r Pwyllgor fynegi barn ynghylch a fyddai Cymru yn cael mwy neu lai drwy gronfeydd newydd, fel y gwnaeth pan oedd y DU yn aelod o'r UE, oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried y mater yn yr un modd.
Cymhlethir hyn ymhellach gan y ffaith nad yw'r Pwyllgor yn gwybod beth yw cynllun ariannu Llywodraeth y DU ar gyfer y blynyddoedd y tu hwnt i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a fydd yn allweddol i gymariaethau â'r lefel ariannu flaenorol.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi sylfeini cadarn ar waith ac yn sefydlu egwyddorion clir i bwyllgorau eraill y Senedd adeiladu arnynt fel y gellir gwneud y mwyaf o effaith y cronfeydd hyn ac mae'n gam cyntaf i daflu goleuni ar y lefelau ariannu y mae Cymru'n eu cael dan y trefniadau newydd hyn.