Cyngor i’r Llywydd – dylai gwleidyddiaeth yng Nghymru wneud y mwyaf o’r chwyldro digidol er mwyn cael pobl ifanc i bleidleisio yn 2011 Officer told

Cyhoeddwyd 24/08/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyngor i’r Llywydd – dylai gwleidyddiaeth yng Nghymru wneud y mwyaf o’r chwyldro digidol er mwyn cael pobl ifanc i bleidleisio yn 2011

24 Awst 2010

Byddy defnydd o dechnoleg ddigidol yn allweddol er mwyn cael pobl ifanc i bleidleisio yn y refferendwm ac yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011, yn ôl pobl ifanc a fu’n sgwrsio â’r Llywydd ynnigwyddiadau dros yr haf y Cynulliad eleni.

Bu’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn rhan o drafodaethau â grwpiau o bobl ifanc yn Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd i wrando ar eu barn am y rhwystrau i bleidleisio, a sut fyddai’r ffordd orau oymgysylltu â nhw.

Cyfeiriwyd at ymgyrch Obama fel enghraifft o sut i ennyn diddordeb pobl ifanc drwy wneud materion cymhleth yn berthnasol, yn amserol ac yn hygyrch.

Diffiniwydyr ymgyrch gan y defnydd o’r rhyngrwyd yn ei holl weithgareddau, gan gysylltu â chynulleidfaoedd enfawr drwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a’r defnyddo lwyfannau rhannu fideos, fel YouTube, i ledaenu fideos aci gyrraedd cynulleidfa ehangach.

Daw’r trafodaethau hyn ar adeg pan fo’r Cynulliad yn gwneud defnydd helaeth o gyfryngau digidol, drwyddefnyddio YouTube i rannu fideos esboniadol a chlipiau o Aelodau’r Cynulliad, Flickr i rannu lluniau, a Twitter a Facebook i gyhoeddi datganiadau i’r wasg a hysbysebu digwyddiadau.

Ac, fel rhan o’i ymdrechion igynnwys cynulleidfaoedd ifancach, mae’r Cynulliad hefyd wedi dechrau cynhyrchu fideos esboniadol sydd wedi’u hanelu at blant ysgol i’w cynnwys ar ei wefan addysg a lansiwyd yn ddiweddar. Mae’r fideo diweddaraf – ‘Pam y dylech bleidleisio?’ – yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad yn egluro pwysigrwydd pleidleisio a sut y gall effeithio ar fywydau pobl ifanc.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad: “Wrth i ni nesáu at y pedwerydd Cynulliad a dechraucymryd rhan yn y drafodaeth am y newid yn y setliad datganoli, mae’r angen i fanteisio ar bob cyfle i siarad â phobl Cymru yn bwysicach nag erioed. Mae pobl yn awr yn disgwyl gallu cysylltu â chyrff cyhoeddus a phreifat yn syth ac y maent yn disgwyl i’r cyrff hynny wrando ac ymateb o fewn amser priodol.

“Mae’r Cynulliad wedi mynd cymryd camau breision ymlaen yn ei ymdrech i fod yn rhan o’r oes ddigidol. Mae tua 2,000 o bobl yn ein dilyn ar Twitter, mae gennym dros 600 o gefnogwyr ar Facebook, ac mae llawer mwy o bobl yn edrych ar ein lluniau ar Flickr ac yn gwylio ein fideos ar YouTube. Mae’r Cynulliad hefyd yn cynhyrchu cynnwys fideo o safon, ac mae ganddowefan addysg newydd sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc a system e-ddeisebau sy’n rhoi llais i bobl Cymru.

“Er bod y Cynulliad ar y blaen i’w gyfoedion mewn sawl ffordd yn ei ddefnydd o dechnoleg, mae’n rhaid i ni gydnabod pwysigrwydd y cyfryngau hyn os ydym am barhau i symud ymlaen yn effeithiol ac i fod yn sefydliad modern, hollgynhwysol.”

Dywedodd Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd, sydd â chyfrifoldeb dros strategaeth e-ddemocratiaeth y Cynulliad: “Mae technoleg wedi newid sut rydym yn cyfathrebu. Mae wedi newid y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu â’i gilydd ac mae’n newid y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu â sefydliadau.

“Yn amlwg, nid yw defnyddio cyfryngau cymdeithasol – pa bynnag rai ydynt – yn ffordd o warantu ymgysylltiad effeithiol â phobl. Mae’r cysyniad ‘Rwy’n blogio ac felly rwy’n ymgysylltu â phobl ifanc’ yn gamdybiaethgyffredin – nid yn unig ymysg Aelodau’r Cynulliad, ond ymysg Aelodau Seneddol a busnesau sydd am ganfod y ffordd ddelfrydol o ymgysylltu â phobl o dan 30 oed.

“Ond ni ddylai gwleidyddion a sefydliadau gwleidyddol anwybyddu’r llwyfannau hyn, sy’n galluogi pobl i ddweud wrthym sut y maent am newid eu bywydau er gwell.”