Cynllun Llywodraeth y DU i greu mwy o gystadleuaeth yn y sector dwr yn annhebyg o lwyddo yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad
14 Awst 2013
Mae cynllun gan Lywodraeth y DU i greu mwy o gystadleuaeth yn y sector cyflenwi dwr yn Lloegr yn annhebyg o lwyddo yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi cwblhau ei ymchwiliad i oblygiadau posibl y Bil Dwr, a fyddai, pe bai’n cael ei gymeradwyo, yn ei gwneud yn bosibl i weithredwyr safleoedd annomestig fel busnesau, elusennau, a sefydliadau eraill ddewis eu cyflenwr dwr a charthffosiaeth, yn debyg i’r modd y gall pobl ddewis cwmnïau cyfleustodau nwy a thrydan.
Mae’r Bil yn cael ei ystyried yn Nhy’r Cyffredin ar hyn o bryd ond nid oedd y Pwyllgor wedi’i argyhoeddi y byddai ymestyn y ddeddfwriaeth i Gymru yn arwain at fwy o fuddion i gwsmeriaid, sef yr hyn y mae’r Bil wedi’i gynllunio i’w annog. Dywedodd cynrychiolwyr sefydliadau a gyfrannodd at yr ymchwiliad wrth y Pwyllgor y byddent yn ystyried newid eu cyflenwr dim ond pe bai hynny’n arwain at arbedion sylweddol mewn costau dwr.
Nododd y Pwyllgor fod model busnes Dwr Cymru, sef cyflenwr dwr mwyaf Cymru, yn un rheswm pam na fyddai cyfraith o’r fath yn effeithiol. Mae Dwr Cymru yn gweithredu ar ffurf cwmni di-ddifidend, a chaiff enillion eu hailfuddsoddi yn ei rwydwaith cyflenwi dwr.
Nododd y Pwyllgor honiad y Llywodraeth nad oedd ganddi gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth debyg yng Nghymru, a chytunodd y Pwyllgor â hyn.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Mae’r gost o gyflwyno’r newidiadau a gynigir ym Mil Dwr Llywodraeth y DU yn sylweddol, ac, o gofio’r model di-ddifidend y mae Dwr Cymru yn ei weithredu, nid yw’r Pwyllgor wedi’i argyhoeddi y byddai newidiadau o’r fath yn creu unrhyw fuddion ychwanegol i gwsmeriaid neu’n codi safon gwasanaethau yng Nghymru.
“Roedd y Pwyllgor yn pryderu hefyd y byddai unrhyw ostyngiadau neu arbedion posibl a fyddai’n cael eu cynnig i gwsmeriaid annomestig yn arwain at filiau uwch i aelwydydd er mwyn adennill y gwahaniaeth.
“O gofio bod nifer o aelwydydd yng Nghymru yn ei chael yn anodd talu eu biliau presennol, dylid osgoi hyn, yn ein barn ni.”