Cynnydd calonogol o ran diogelu tirnodau hanesyddol Cymru

Cyhoeddwyd 06/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Bu cynnydd calonogol o ran diogelu adeiladau, tirnodau a henebion hanesyddol yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn craffu ar effaith Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sy'n rhoi mwy o ddiogelwch i adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yng Nghymru.

Canfu'r Pwyllgor fod y Ddeddf, yn fras, yn gweithio yn unol â'r bwriad, a bod rôl Cadw, y rhan honno o'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol y wlad, wedi cael croeso brwd.

Mae'r Aelodau wedi argymell bod Cadw'n ailddechrau dyfarnu grantiau i berchnogion adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig sydd mewn perygl o ddadfeilio. Ataliwyd y rhaglen gan y sefydliad, i bob pwrpas, er mwyn sicrhau bod ganddo sylfaen ariannol gadarnach. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor o'r farn bod yr amcan hwn wedi'i gyflawni ac y dylid ailddechrau'r broses o ddyfarnu grantiau.

"Mae'r amgylchedd hanesyddol yn rhan gyfoethog o'r hyn sy'n rhoi hunaniaeth i Gymru," meddai Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Mae'n dyst i'n hanes ac yn darparu'r tirlun ar gyfer ein hanes a'n diwylliant cenedlaethol.  Y gorffennol ydyw, yma yn y presennol.

"Yn gyffredinol, credwn fod cynnydd rhesymol wedi'i wneud ers i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol gael ei phasio, ond mae'n bwysig bod y momentwm hwnnw'n cael ei gynnal. 

"Felly, rydym wedi cyflwyno nifer o argymhellion ymarferol yr ydym o'r farn y byddant o gymorth o ran parhau â'r cynnydd sy'n cael ei wneud, a hynny er mwyn sicrhau bod ein hamgylchedd hanesyddol yn ffynnu yn y dyfodol yn ogystal â'r presennol." 

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylid cadw llygad ar effeithiolrwydd y rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol, gyda'r bwriad o gyflwyno diogelwch ychwanegol os nad yw'r rhestr bresennol yn effeithiol;

  • Dylai Cadw weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phartneriaid eraill i annog y sector amgylchedd hanesyddol i efelychu gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wneud y dulliau o reoli'r sector yn fwy ecogyfeillgar;

  • Dylai Cadw ailddechrau rhoi grantiau i berchnogion adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig sydd mewn perygl.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Ymchwiliad i'r Amgylchedd Hanesyddol (PDF, 1.78 MB)