Cynulliad Cenedlaethol Cymru: fel deddfwrfa: Y gorffennol, y presennol a'r dyfodol

Cyhoeddwyd 06/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: fel deddfwrfa: Y gorffennol, y presennol a'r dyfodol


Dydd Iau 22 Medi – Y Pierhead, Bae Caerdydd

Roedd mis Mawrth 2011 yn arwydd o newid sylfaenol ym mhroses ddeddfu’r Cynulliad Cenedlaethol, gyda phleidlais gadarnhaol y refferendwm yn trosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad ym mhob un o’r meysydd datganoledig.

... I nodi’r garreg filltir bwysig hon, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Grŵp Astudio Seneddol a Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn cynnal cynhadledd i drafod etifeddiaeth y Cynulliadau blaenorol, yr heriau sy’n wynebu’r Pedwerydd Cynulliad fel deddfwrfa sydd wedi’i grymuso, a dyfodol y gyfraith a datganoli yng Nghymru.

Crynodeb o’r gynhadledd
01_Sesiwn gychwynnol: gosod y cyd-destun
02_Y Cynulliad Cenedlaethol fel deddfwrfa
03_Paratoi deddfau da
04_Cloi’r gynhadledd

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a rhwydweithio dros ginio. Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen isod a’i dychwelyd at Assembly.Bookings@cymru.gov.uk erbyn 15 Medi.

Enw:
Sefydliad:
Cyfeiriad e-bost:
Rhif ffôn:
Rhowch fanylion am unrhyw ofynion dietegol neu fynediad sydd gennych:

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel deddfwrfa - y gorffennol, y presennol a'r dyfodol 22 Medi 2011