Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ardystio’n swyddogol yn gyflogwr Cyflog Byw y DU
12 Rhagfyr 2012
Bydd staff sy’n gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ddieithriad, yn cael lleiafswm o £7.45 yr awr, sef y Cyflog Byw.
Golyga hynny y bydd gweithwyr a gyflogir gan gontractwyr allanol, fel staff arlwyo a staff glanhau, yn cael codiad cyflog.
Gwarantir eisoes mai dyma’r isafswm y bydd yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y Cynulliad yn ei gael. Caiff y Cyflog Byw ei bennu’n annibynnol gan y Ganolfan Ymchwil i Bolisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough, ac mae wedi’i gysylltu â’r gost sylfaenol o fyw yn y DU.
Roedd Comisiwn y Cynulliad o’r farn y dylid sicrhau mai’r cyflog sylfaenol hwn yw’r isafswm i holl weithwyr ystâd y Cynulliad, a bellach bydd yn rhaid i unrhyw gontractwr sy’n gwneud cais am gytundeb gan y Cynulliad warantu mai’r Cyflog Byw hwn yw’r isafswm y bydd ei staff yn ei gael.
Bellach, mae’r Cynulliad wedi’i ardystio’n swyddogol yn gyflogwr Cyflog Byw y DU gan y Sefydliad Cyflog Byw.
Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am Adnoddau a Chyfleusterau’r Cynulliad: “Mae Comisiwn y Cynulliad o’r farn y dylai cael Cyflog Byw fod yn hawl ddynol sylfaenol.
“Rydym wastad wedi sicrhau bod staff contractwyr yn cael mwy na’r isafswm cyflog, ond credwn fod gwaith ymchwil yn dangos bod y cyflog hwn yn dal yn rhy isel.
“Bydd rhai yn beirniadu gan ddweud na ellir fforddio gwneud hyn mewn cyfnod o galedi, ond byddwn yn ymateb drwy ddweud bod hyn yn rhoi mwy o incwm gwario i weithwyr, sy’n eu galluogi i brynu’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae nifer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.
“Bydd hyn yn ei dro yn dod â mwy o arian i mewn i’r economi ac felly, gobeithio, yn creu mwy o swyddi yn y sectorau hynny.
“Ar ben hynny, mae contractwyr yn dweud wrthym fod talu’r cyflogau hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eu trosiant staff yn is, sy’n sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn fwy effeithiol.”
Bellach, mae bron 100 o gyflogwyr o bob sector yn talu’r Cyflog Byw. Mae Cyflogwyr Cyflog Byw yn nodi bod morâl wedi gwella, bod eu trosiant staff yn is, bod llai o absenoldeb, bod cynnydd mewn cynhyrchiant, a bod gwell gwasanaethau i gwsmeriaid.
Mae’r sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gynnig Cyflog Byw yn cynnwys y cyfrifwyr KPMG, y Blaid Lafur, Lloyd’s London ac UNICEF.
Ychwanegodd Mrs Mewies:“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o ymuno â’r rhestr hon o sefydliadau arloesol drwy sicrhau bod gan weithwyr sydd â chyflogau is yr hawl ddynol sylfaenol i gael Cyflog Byw.”