Cynulliad Cenedlaethol yn ennill Gwobr Cynaliadwyedd

Cyhoeddwyd 04/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2015

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i enwi yn "Sefydliad Sector Cyhoeddus Mwyaf Cynaliadwy yn y Llywodraeth" yng Ngwobrau Cynaliadwyedd y Sector Cyhoeddus.

Dyfarnwyd y wobr fawreddog i'r Cynulliad gan yr Institute of Public Sector Estates Management (IPSEM).

Rhoddir y wobr i gydnabod cyflawniad nodedig a phwysig o ran cyfrannu tuag at leihau allyriadau carbon y sector cyhoeddus.

Dywedodd Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am gynaliadwyedd: "Mae hwn yn llwyddiant rhagorol a rhaid cydnabod gwaith Tîm Cyfleusterau a Chynaliadwyedd y Cynulliad yn rhoi rhaglenni ar waith sydd wedi gwneud y Cynulliad yn fwy effeithlon o ran ynni, ynghyd ag ymrwymiad pawb i gefnogi'r rhaglen gwelliannau amgylcheddol.

"Mae pawb yn gwybod am ganfyddiadau gwyddonwyr ynghylch effaith newid yn yr hinsawdd ar ein hamgylchedd.

"Mae'n iawn, felly, bod cyrff cyhoeddus fel y Cynulliad Cenedlaethol yn gosod esiampl ac yn chwarae rhan ganolog o ran lleihau'r defnydd o ynni ac allyriadau.

"Dyna pam mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i gwrdd â thargedau amgylcheddol anodd."

Mae'r Cynulliad:

  • hyd yn hyn wedi cyflawni gostyngiad o 37% mewn allyriadau ynni ers 2008/09;
  • yn y broses o asesu dichonoldeb ymuno â rhwydwaith gwresogi arfaethedig ar gyfer ardal Caerdydd, gan ddefnyddio ynni o wastraff fel prif danwydd;
  • ar fin uwchraddio'r System Rheoli Adeiladau bresennol, gan ddarparu cyfleoedd pellach i wneud y gorau o effeithlonrwydd ei offer a'i ddefnydd o ynni;
  • wedi cynyddu ei gyfradd ailgylchu o 68% i 96% ers 2010/11;
  • wedi cyflawni gostyngiad o 50% mewn allyriadau CO2 gwastraff yn yr un cyfnod.

Mae Comisiwn y Cynulliad hefyd wedi cymeradwyo trywydd lleihau ynni i ostwng allyriadau ynni gan 30% arall erbyn 2021 o'i gymharu â lefelau 2012/13.

Dywedodd Neil Bradley, Cydlynydd Cynaliadwyedd y Cynulliad: "Rwyf wrth fy modd yn cynrychioli'r Cynulliad yn y gwobrau hyn, a bod ein hymdrechion ar y cyd yn cael eu cydnabod mewn modd mor bositif.  Mae'r gwaith rydym wedi gwneud dros y blynyddoedd yn talu ar ei ganfed a gobeithio y bydd hyn yn gatalydd ar gyfer gwella ymhellach yn y dyfodol."