Cyrraedd y cant ar ôl blwyddyn o ddeisebu

Cyhoeddwyd 14/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cyrraedd y cant ar ôl blwyddyn o ddeisebu

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn flwydd oed, ac yn y cyfnod hwnnw mae dros 100 o ddeisebau wedi dod i law.

Bydd y Pwyllgor Deisebau’n dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus ar 15 Gorffennaf, a hynny mewn digwyddiad arbennig o’r enw “Ystyriaethau a Rhagamcaniom”. Bydd hwn yn gyfle hefyd i edrych ar ffyrdd o annog mwy o bobl i gyfrannu at y broses ddemocrataidd.

Carreg filltir bwysig i’r Pwyllgor Deisebau oedd lansio’r system e-ddeisebau ym mis Ebill, ac mewn cwta ddau fis a hanner, mae ugain y cant o holl ddeisebau’r flwyddyn wedi’u cyflwyno drwy’r system honno. Mae’r system yn galluogi’r cyhoedd i gyflwyno, gweld a llofnodi deisebau ar-lein, ac mae’n ffordd gyflym, rhwydd a chyfleus o roi barn am faterion Cymreig i’r Cynulliad.

Meddai Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Mae’r pwyllgor yn falch dros ben â’r nifer o ddeisebau sydd wedi’u cyflwyno yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae’r system e-ddeisebau yn arbennig wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae’n dangos pa mor bwysig yw defnyddio ffyrdd modern a hwylus er mwyn helpu pobl i ddeall democratiaeth Cymru a chyfrannu at y broses honno. Bydd pobl yn sylweddoli bod eu lleisiau a’u safbwyntiau’n cael eu clywed, ac yn fwy na hynny, yn arwain at weithredu.”