Cytundeb Brexit - Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cyhoeddwyd 14/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/11/2018

Mae David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ('Pwyllgor Brexit' y Cynulliad)wedi ymateb i'r cyhoeddiad y bydd cytundeb o'r diwedd yn cael ei gyrraedd ar destun Cytundeb Ymadael Erthygl 50:

“Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad bod yr UE a'r DU o'r diwedd wedi cyrraedd pwynt lle maent wedi cytuno ar destun y Cytundeb Ymadael.”

Tra'n bod ni'n aros i'r Cabinet gytuno ar y testun hwn, ein cyfrifoldeb ni nawr yw ystyried y goblygiadau i Gymru yn sgil y datblygiad hwn a byddwn nawr yn ystyried manylion y cytundeb fel mater o flaenoriaeth.”

Wrth ymateb, dywedodd Mr Rees hefyd:

“Mae'n bryder ei bod wedi cymryd gymaint o amser i ddod i gytundeb, gan fod hynny'n cyfyngu ar yr amser sydd ar gael i ni, a chydweithwyr mewn seneddau eraill, i asesu goblygiadau'r Cytundeb Ymadael i'r bobl rydym yn eu cynrychioli.  Byddwn yn gweithio i amserlenni tynn iawn”

O ran yr amserlen i Senedd y DU ystyried y Cytundeb Ymadael, dywedodd:

“Er ein bod yn cydnabod yn llwyr bod pwysau ar gydweithwyr yn Senedd y DU i ystyried y Cytundeb Ymadael yn gyflym, rydym hefyd yn awyddus i sicrhau y bydd amser i'r Cynulliad gynnig safbwynt y gellir ei ystyried cyn dod i unrhyw gytundeb.”

O ran y posibilrwydd o ddiffyg cytundeb ar Brexit, galwodd David Rees am ddadansoddiad clir a manwl:

“Mae'r holl dystiolaeth rydym wedi'i chlywed yn ein gwaith hyd yma yn awgrymu y bydd diffyg cytundeb ar Brexit yn drychinebus i Gymru.

Mae angen dadansoddiad manwl arnom nawr ar y cytundeb hwn i ddangos ei fod yn cynnig rhagolygon gwell i Gymru na “dim cytundeb” a chymhariaeth â'n haelodaeth bresennol o'r Undeb Ewropeaidd.”

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wrthi'n ystyried y Cytundeb Ymadael a byddwn yn cyhoeddi allbynnau mewn perthynas â hynny yn yr wythnosau i ddod er mwyn llywio unrhyw ddadl sy'n digwydd yn y Cynulliad Cenedlaethol a thu hwnt.