Dadl ar fenywod a datganoli i’w chynnal yn y Pierhead

Cyhoeddwyd 25/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dadl ar fenywod a datganoli i’w chynnal yn y Pierhead

25 November 2010

Heddiw, (25 Tachwedd) bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Hansard yn cynnal digwyddiad ar y cyd, gyda’r nod o ystyried materion yn ymwneud â rhywedd a datganoli.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban wedi ennill cydnabyddiaeth am gyflawni lefelau uwch o gynrychiolaeth wleidyddol i fenywod.

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i ystyried canlyniadau’r etholiad a gynhaliwyd yn 2007 a thrafod eu goblygiadau i’r etholiad a gynhelir yn 2011.

Bydd hefyd yn gyfle i ystyried y cynnydd a wnaed o ran cynyddu cynrychiolaeth wleidyddol i fenywod ers datganoli, pa rwystrau sy’n peryglu’r cynnydd hwnnw a pha gamau y mae angen eu cymryd, o bosibl, i sicrhau cydraddoldeb rhywiol yn y dyfodol.

Y gohebydd a’r sylwebydd Mai Davies fydd yn cadeirio’r digwyddiad. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Christine Chapman AC (y Blaid Lafur), Helen Mary Jones AC (Plaid Cymru), Eleanor Burnham AC (y Democratiaid Rhyddfrydol) a Dr Ruth Fox (Cymdeithas Hansard).

Dywedoddd Rosemary Butler AC, y Dirprwy Lywydd: “Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni cryn dipyn o fewn amser cymharol fyr, ond ni ddylwn fod yn hunanfodlon.

“Edrychwn i’r pleidiau gwleidyddol i sicrhau bod dulliau a chyfleoedd addas yn bodoli i sicrhau bod democratiaeth y dyfodol yn cynnwys cydraddoldeb a chyfle i bawb.”

Dywedodd Dr Ruth Fox o Gymdeithas Hansard: “Yn ystod y degawd diwethaf, mae Cymru a’r Alban wedi ennill clod teilwng am fod ar flaen y gad ar y lefel rhyngwladol o ran y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynrychiolaeth i fenywod. Dangosodd canlyniadau etholiad 2007, fodd bynnag, bod y cynnydd hwn wedi arafu, ac mae yna gryn bryder y bydd canlyniadau’r etholiad a gynhelir yn 2011 yn waeth fyth.

“Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn gofyn cwestiynau brys ynghylch sut a pam y mae hyn yn digwydd, ac yn dechrau ystyried y camau y bydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae’r her hon yn rhy bwysig i’w adael i’r pleidiau gwleidyddol yn unig.”