Datganiad ar y cyd o Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd:
Flwyddyn ar ôl i Rwsia ddechrau ei hymosodiad anghyfreithlon, mae pwyllgorau'r Senedd yn sefyll mewn undod ag Wcráin. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwylio mewn arswyd gyda gweddill y byd wrth i drychineb y rhyfel yno ddatblygu.
Rydym yn cadw pobl Wcráin yn ein meddyliau wrth iddynt barhau i wynebu caledi aruthrol. Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â’r bobl hynny, yn enwedig menywod a phlant Wcráin, sydd wedi gorfod gwneud y dewis ingol o ffoi o'u cartrefi neu aros i dderbyn y gwaethaf o ymosodiadau Rwsia.
Gyda'n gilydd, fel pwyllgorau’r Senedd, rydym wedi trafod a chodi materion sy'n ymwneud â chymorth i Wcráin yn ein gwaith ers i’r ymosodiad ddechrau, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i barhau i ymdrechu i roi cymorth i bobl Wcráin.
Llofnodwyd,
David Rees AS, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Darren Millar AS, Cadeirydd dros dro Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Jayne Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Vikki Howells AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad