Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 19/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Datganiad gan Jonathan Morgan AC

Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

ar Wasanaethau Mamolaeth

Tra’i fod yn newyddion da bod llawer o ferched yn fodlon â’r gofal mamolaeth a ddarperir, mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ofal Mamolaeth yng Nghymru hefyd yn amlygu anghysonderau annerbyniol mewn gwasanaethau mamolaeth ar draws Cymru.

Nid yw Gweinidogion Cymru eto wedi creu strategaeth gyffredinol ar gyfer gofal mamolaeth yng Nghymru a hyd nes y gwneir hynny, bydd yr anghysonderau annerbyniol hyn yn parhau. Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol wedi datgelu bod cynllunio gwasanaethau mamolaeth yn cael ei danseilio gan ddiffyg strategaeth o’r fath a diffyg gwybodaeth dda am gost ac ansawdd gwasanaethau.

Mae gwersi gwerthfawr i’w dysgu o’r adroddiad hwn ac mae angen i sefydliadau’r GIG gydweithio er mwyn rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith.

Cyhoeddir Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ddydd Gwener 19 Mehefin.

Gellir cael copïau o www.wao.gov.uk/

Y Pwyllgor Archwilio