Datganiad gan Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch y Bil Sector Amaethyddol (Cymru)

Cyhoeddwyd 09/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Rwy'n croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys sy'n cadarnhau bod gan y Cynulliad gymhwysedd i basio'r Bil hwn. Heblaw hynny, mae'r dyfarniad yn rhoi eglurder pwysig, y mae mawr ei angen, ynghylch y setliad datganoli yng Nghymru.

Mae hefyd yn cadarnhau'r cyngor cyfreithiol awdurdodol a roddwyd i mi, ac mae'n dangos bod y Cynulliad yn sefydliad aeddfed sydd â'r gweithdrefnau a'r staff priodol i ddehongli a gweithredu'r setliad datganoli.

Fodd bynnag, mae'r ffaith bod tri o filiau'r Cynulliad wedi'u cyfeirio at y Goruchaf Lys yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn dangos mor anodd yw gweithredu'r setliad hwnnw. Rydym yn dal i aros am y dyfarniad ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a fydd yn archwilio profion eraill o ran cymhwysedd deddfwriaethol. Pan fydd y ddau ddyfarniad gennym, bydd angen imi drafod y sefyllfa gyda'r cyfreithwyr a'r uwch-swyddogion. Rydym yn croesawu'r eglurder ychwanegol y mae'r Goruchaf Lys eisoes wedi'i roi, ond dim ond y materion hynny sy'n dod ger ei fron y gall y Goruchaf Lys eu trafod. Bydd angen inni adolygu a oes angen inni barhau i geisio cydweithrediad Llywodraeth y DU a'r Senedd i symleiddio'r setliad datganoli mewn ffordd systematig. Fel y dywedais eisoes, mae'r diffyg eglurder ynghylch yr hyn sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad a'r hyn nad yw o fewn ei gymhwysedd, hefyd yn fater o ddemocratiaeth, oherwydd mae'n ei gwneud yn anodd i'r cyhoedd yng Nghymru ddeall cyfansoddiad eu gwlad eu hunain.