Datganiad gan y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, mewn ymateb i ganlyniad refferendwm yr Alban

Cyhoeddwyd 19/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

​Llongyfarchiadau i'r Alban ar nifer y bobl a bleidleisiodd yn y refferendwm. Mae'n galonogol gweld faint o'r pleidleiswyr yn yr Alban - rhai mor ifanc ag 16 oed - sydd wedi cymryd rhan yn y refferendwm.

Nawr, gan fod pobl yr Alban wedi cael dweud eu dweud - mae'n hollbwysig yn yr hyn a fydd yn digwydd nesaf fod gan bobl Cymru lais yr un mor gryf.

Rydym yn gwybod y bydd newidiadau pellach i gyfansoddiad y DU, ac y bydd y rhain yn cael effaith ar Gymru. Rwy'n sicr o hyd bod angen Confensiwn Cyfansoddiadol ar gyfer y DU ac mae'n hanfodol y caiff Cymru ei chynrychioli'n gadarn yn y broses honno.

Y Fonesig Rosemary Butler AC