Datganiad gan y Llywydd – Refferendwm yr UE

Cyhoeddwyd 24/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/06/2016

​Mae gan effaith y bleidlais i Adael yn Refferendwm yr UE oblygiadau eang i gyfeiriad ein cenedl a’r Cynulliad. Bydd angen llais cryf ar Gymru a’r Cynulliad a bydd angen bod o amgylch y bwrdd wrth gynnal unrhyw drafodaethau ynglŷn â dyfodol y DU.

Yn benodol, mae’n rhaid i fuddiannau a phryderon pobl Cymru gael eu hystyried dros y misoedd nesaf, fel rhan o’r trafodaethau ar lefel yr UE ac o fewn y DU. Nid yw strwythurau cyfansoddiadol presennol na threfniadau mewnol y DU yn ddigon cadarn na ffurfiol i wneud hyn - mae angen rhoi prosesau newydd, cryfach a mwy ffurfiol ar waith ar lefel rhynglywodraethol ac ar lefel rhyngseneddol.

Rwy’n disgwyl y bydd y Cynulliad yn craffu’n drylwyr ar hyn, yn enwedig drwy’r pwyllgorau a gaiff eu sefydlu yr wythnos nesaf.

Mae angen i ni, yn arweinwyr gwleidyddol, ac i’r cyfryngau edrych o ddifrif ar y sefyllfa yng Nghymru o ran ymgysylltiad democrataidd a thrafodaeth wleidyddol.

Un o fy mlaenoriaethau pennaf fel Llywydd y Cynulliad yw gwella’r lefel o ymgysylltiad democrataidd parchus ac ystyrlon.