Datganiad y Llywydd ar ran Comisiwn y Cynulliad
Y Llywydd: Fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, hoffwn wneud datganiad ar adroddiad y panel adolygu annibynnol ar gymorth ariannol i Aelodau Cynulliad, dan gadeiryddiaeth Syr Roger Jones. Hoffwn i, a fy nghydweithwyr ar y comisiwn, ddiolch yn gynnes i’r cadeirydd ac aelodau eraill y panel annibynnol, Jackie Nickson, Nigel Rudd a Dafydd Wigley, am eu holl waith caled wrth baratoi’r adroddiad. Buom yn ffodus i gynnull panel â phrofiad a sgiliau eang ac yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt am fod mor drylwyr ac egwyddorol wrth ymgymryd â’r gwaith.
Gofynnwyd i’r panel ystyried pob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau, gan gynnwys cyflogau a lwfansau teithio, llety, swyddfeydd etholaeth a staff cymorth. Mynegwyd yn glir i aelodau’r panel fod eu cylch gwaith i fod yn eang a’u gweithrediad i fod yn benderfynol annibynnol. Ni chwaraeodd Comisiynwyr y Cynulliad unrhyw ran yn eu gwaith ar unrhyw adeg, gan ein bod yn awyddus i lynu at un o’r egwyddorion hanfodol, sef na ddylem ni, fel Aelodau Cynulliad, ymhel â phenderfynu ar ein sefyllfa ariannol ein hunain.
Nid oedd unrhyw amheuaeth ar ran y panel fod yn rhaid i Aelodau Cynulliad gael digon o adnoddau i allu cyflawni’r gwaith y cawsant eu hethol i’w wneud mewn ffordd gwbl ddilychwin, fel ei bod yn bosibl ‘dwyn Aelodau’r Cynulliad i gyfrif, ac mae’n rhaid i’r holl broses fod yn un agored’.
Mae’r adroddiad yn cynnwys 23 o brif argymhellion ynghyd ag 85 o argymhellion ategol. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i dderbyn yr argymhellion yn llawn.
Yr wyf yn ddiolchgar i’m cyd-gomisiynwyr am eu hymateb clir ac unfrydol, a gafodd ei arwain gan eu synnwyr o atebolrwydd i bobl Cymru. Ar yr argymhellion mae’r panel yn argymell gweithredu arnynt ar unwaith, a lle mae pwerau cyfreithiol eisoes gan y comisiwn, ni fyddwn yn oedi. Mae’r prif weithredwr a’i staff eisoes wedi dechrau ar drefn i weithredu’r argymhellion hynny cyn gynted â phosibl. Ar gyfer nifer fawr o’r argymhellion, bydd angen gwaith paratoi sylweddol cyn y gellir gweithredu’r newidiadau, fel ag y mae’r panel yn ei gydnabod yn yr adroddiad. Mae’r comisiwn, serch hynny, yn bwriadu dechrau ar y gwaith hwn ar unwaith, i’w gyflawni erbyn mis Mai 2011.
Yr wyf yn arbennig o ddiolchgar i’n prif weithredwr a’i thîm am y cyngor manwl a llawn a roddwyd i’r comisiynwyr am agweddau cyfreithiol a gweinyddol ar yr argymhellion, sydd wedi ein galluogi i ymateb yn amserol ac yn glir.
Er mwyn dangos ymrwymiad y Cynulliad i’r safonau ymddygiad uchaf, mae’r Pwyllgor Safonau eisoes wedi cyflwyno Mesur arfaethedig a fydd yn cryfhau annibyniaeth Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol, ac yr wyf yn ddiolchgar i’r Dirprwy Lywydd Dros Dro y prynhawn yma, yn ei swydd arall fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, am arwain ar y Mesur arfaethedig hwn ac am dderbyn gwelliannau iddo yng Nghyfnod 2. Mae Comisiwn y Cynulliad a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi ystyried Rheol Sefydlog sy’n ymwneud â chyflogi aelodau o’r teulu, ac mae’r panel yn cefnogi hynny. Yr wyf yn gobeithio y bydd y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf yn ystyried hyn gyda’r bwriad o gyflwyno Rheol Sefydlog i’r Cynulliad i’w chymeradwyo yn fuan ar ôl yr haf.
Hoffwn gyfeirio at nifer o’r argymhellion allweddol. Un ohonynt yw y dylid torri’r cysylltiad awtomatig rhwng cyflog Aelodau Cynulliad a chyflog Aelodau Seneddol. Argymhelliad y panel yw y dylid cadw’r cyflog sylfaenol presennol a’i uwchraddio yn 2010 yn unol â chwyddiant, ac y dylid sefydlu corff adolygu annibynnol cyn yr etholiad nesaf i bennu lefelau cyflogau ar gyfer y dyfodol. Dylai’r cyflogau hynny fod yn sefydlog am bedair blynedd tymor Cynulliad. Dylid penodi’r corff ar sail statudol, gan y bydd yn gweithredu’n annibynnol ar y Cynulliad. Ei swyddogaeth fydd penderfynu ar bob agwedd ar y cymorth ariannol i Aelodau Cynulliad. Bydd ei benderfyniadau’n derfynol, heb eu cadarnhau na’u cymeradwyo gan y comisiwn na’r Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn. Bwriadwn ddechrau gweithio ar unwaith ar Fesur arfaethedig y comisiwn ac, yn dilyn cytundeb y comisiwn ddoe, byddaf, fel yr Aelod cyfrifol o dan Reol Sefydlog Rhif 23.6, yn cyflwyno’r Mesur arfaethedig i’r Cynulliad yn yr hydref, i sefydlu’r corff adolygu annibynnol a’r dull systematig, gwrthrychol o bennu cyflogau a argymhellodd y panel.
Un arall o’r argymhellion allweddol yw dileu nifer o daliadau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi, gan gynnwys dileu’r caniatâd i hawlio taliadau llog morgais am ail gartrefi a’r lwfans sylfaenol am aros dros nos i ffwrdd o’r prif gartref. Mae argymhellion y panel yn golygu haneru nifer yr Aelodau sy’n gallu hawlio cymorth llety.
Yr oedd y panel o’r farn bod ystyriaethau capasiti’n hanfodol, gan eu bod yn gosod cyd-destun gweithredu ffurfiol y Cynulliad a’i Aelodau, ac yn effeithio ar ei effeithiolrwydd cyffredinol. Felly, bydd y comisiwn yn datblygu awgrymiadau’r panel, megis ehangu’r cyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol sydd ar gael i Aelodau Cynulliad a’u staff, i wella capasiti strategol.
Rhaid sicrhau sail gadarn i’r trefniadau newydd ar gyfer cyflog a threuliau Aelodau a amlinellir yn yr adroddiad, a dylid defnyddio’r fframwaith hwn ar gyfer gwirio, prosesu ac archwilio hawliadau ac ymdrin â materion sy’n ymwneud â safonau.
Yr wyf yn ddiolchgar i Archwilydd Cyffredinol Cymru am ei ymrwymiad ac ymrwymiad ei swyddfa i gymryd rhan sylweddol yn y gwaith o ddarparu sicrwydd annibynnol a chynorthwyo staff y Cynulliad i sicrhau gwelliannau parhaus mewn gweithdrefnau llywodraethu sy’n batrwm i eraill ei ddilyn.
Yr wyf yn falch ein bod yn cyflwyno’r newidiadau hyn yn ystod y flwyddyn hon a ninnau’n nodi 10 mlynedd o ddatganoli. Heddiw, wrth gyhoeddi penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i weithredu argymhellion y panel annibynnol, yr ydym yn dangos ein bod yn torri’n rhydd unwaith ac am byth o draddodiadau ac arferion rhai o gyrff seneddol y Deyrnas Unedig. Yr ydym yn cynnig arweiniad i’r rhai sydd o ddifrif o blaid diwygio democrataidd. Drwy gadw ffydd y cyhoedd mewn datganoli, yr wyf yn sicr ein bod yn cryfhau’r broses ddemocrataidd yng Nghymru.