Baneri Cymru

Baneri Cymru

Dathliad yn y Senedd o sêr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru

Cyhoeddwyd 09/09/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2024   |   Amser darllen munud

Bydd athletwyr Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael croeso adref fel arwyr yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Iau, 26 Medi, gyda chyfle i bobl ddod draw i ddathlu eu llwyddiant. 

Bydd rhai o sêr chwaraeon mawr yr haf yn bresennol yn y digwyddiad, sydd i’w gynnal ar risiau Senedd Cymru. 

Bydd y seren gymnasteg Ruby Evans, y gymnastwr Cymreig cyntaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ers 1996, chwaraewraig hoci o Gaerdydd Sarah Jones, a Matt Aldridge, a enillodd fedal efydd Olympaidd yn y gystadleuaeth rwyfo, a’r  ymhlith y llu o Olympiaid a fydd yn bresennol yn nigwyddiad y Senedd.   

Bydd yr arwr Paralympaidd Matt Bush, a enillodd fedal aur yng nghystadleuaeth taekwondo K44 +80kg y dynion, a Paul Karabardak, enillydd medal efydd yng nghysytadleuaeth dyblau tenis bwrdd MD14 y dynion, ymhlith yr enillwyr medalau Paralympaidd a fydd yn bresennol.  

Bydd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn croesawu’r athletwyr i gartref democratiaeth Cymru, gyda’r digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Academi Celfyddydau Perfformio Caerdydd a’r grŵp eclectig Wonderbrass.  

Gwahoddir y cyhoedd i ymuno â’r dathliadau y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd o 17:30 ymlaen, lle bydd athletwyr a hyfforddwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyhoeddus dan adain y cyflwynydd Jason Mohammad, cyn i’r digwyddiad ddod i’w anterth drwy gloi gyda chanu’r anthem genedlaethol. 

Meddai Elin Jones AS, Llywydd y Senedd: “Mae’n fraint croesawu’r athletwyr a’r hyfforddwyr i’r Senedd i ddangos ein gwerthfawrogiad am eu hymdrechion arbennig ar y maes chwarae. 

“Mae’r perfformiadau anhygoel ym Mharis yn ein gwneud ni i gyd yn falch o fod yn Gymry ac rwy’n siŵr y bydd llawer o bobl eisiau ymuno â ni yn y Senedd yn ddiweddarach y mis hwn i ddathlu eu llwyddiant.” 

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr haf hwn unwaith eto wedi rhoi llwyfan i athletwyr Cymru ddisgleirio ar y llwyfan mwyaf.  

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu ein hathletwyr, a wnaeth mor dda ym Mharis, yn ôl i Gymru am deyrnged deilwng yn dilyn eu perfformiadau arwrol!”