Dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno ag ysgolion o Gymru benbaladr ac Aelodau’r Cynulliad i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd, ddydd Mawrth 11 Mawrth.
I nodi’r achlysur, trefnwyd rhaglen helaeth o ddigwyddiadau gan Gangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Bydd deg o ysgolion yn cynnal; arddangosfeydd yn yr Oriel ar thema Diwrnod y Gymanwlad 2008 sef ‘Yr Amgylchedd – Ein Dyfodol’ tra bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod cysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad mewn dadl arbennig yn ystod cyfarfod llawn y prynhawn.
Neilltuwyd lle hefyd ar gyfer aelodau’r cyhoedd a chynrychiolwyr sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb yng nghysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad i ddod i’r ddadl a chwrdd ag Aelodau’r Cynulliad mewn derbyniad arbennig wedyn i nodi Diwrnod y Gymanwlad.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad a Llywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad : “R wy’n edrych ymlaen am ddathlu Diwrnod y Gymanwlad a chysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad. Mae ystod eang o gysylltiadau i’w dathlu, ym maes busnes, cymunedau ffydd ac eglwysi, diwylliant, addysg a chwaraeon. Hoffem eich croesawu chi i’r Senedd i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad gyda ni, a chithau naill ai’n dod o wlad arall yn y Gymanwlad ac yn byw ac yn gweithio yng Nghymru neu’n dod o Gymru a chennych gysylltiadau â’r Gymanwlad.’
Dyrennir y tocynnau ar gyfer y ddadl yn ôl yr egwyddor ‘y cyntaf i’r felin’. I wneud cais am docyn, cysylltwch â Llinell Docynnau’r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost i archebu@cymru.gsi.gov.uk.
Nodiadau ar gyfer Golygyddion:
Bydd Diwrnod y Gymanwlad yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar yr ail ddydd Llun ym mis Mawrth. Ceir mwy o wybodaeth gan Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad. Bydd y Cynulliad yn dathlu ar y diwrnod busnes agosaf.
Mae’r Cynulliad yn un o ryw 170 o ganghennau sy’n aelodau o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
Dolennau
Gwybodaeth ychwanegol am waith CSyG a cheir gwybodaeth am Gangen Cymru.