Dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd (1)

Cyhoeddwyd 03/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno ag ysgolion o Gymru benbaladr ac Aelodau’r Cynulliad i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd, ddydd Mawrth 11 Mawrth.

I nodi’r achlysur, trefnwyd rhaglen helaeth o ddigwyddiadau gan Gangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Bydd deg o ysgolion yn cynnal; arddangosfeydd yn yr Oriel ar thema Diwrnod y Gymanwlad 2008 sef ‘Yr Amgylchedd – Ein Dyfodol’ tra bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod cysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad mewn dadl arbennig yn ystod cyfarfod llawn y prynhawn.

Neilltuwyd lle hefyd ar gyfer aelodau’r cyhoedd a chynrychiolwyr sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb yng nghysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad i ddod i’r ddadl a chwrdd ag Aelodau’r Cynulliad mewn derbyniad arbennig wedyn i nodi Diwrnod y Gymanwlad.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad  a Llywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad : “R wy’n edrych ymlaen am ddathlu Diwrnod y Gymanwlad a chysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad. Mae ystod eang o gysylltiadau i’w dathlu, ym maes busnes, cymunedau ffydd ac eglwysi, diwylliant, addysg a chwaraeon. Hoffem eich croesawu chi i’r Senedd i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad gyda ni, a chithau naill ai’n dod o wlad arall yn y Gymanwlad ac yn byw ac yn gweithio yng Nghymru neu’n dod o Gymru a chennych gysylltiadau â’r Gymanwlad.’     

Dyrennir y tocynnau ar gyfer y ddadl yn ôl yr egwyddor ‘y cyntaf i’r felin’. I wneud cais am docyn, cysylltwch â Llinell Docynnau’r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost i      archebu@cymru.gsi.gov.uk.

Nodiadau ar gyfer Golygyddion:

Bydd Diwrnod y Gymanwlad yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar yr ail ddydd Llun ym mis Mawrth. Ceir mwy o wybodaeth gan  Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad. Bydd y Cynulliad yn dathlu ar y diwrnod busnes agosaf.

Mae’r Cynulliad yn un o ryw 170 o ganghennau sy’n aelodau o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.

Dolennau

Gwybodaeth ychwanegol am waith CSyG a cheir gwybodaeth am Gangen Cymru.