Deddf Etholiadau Cymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol

Cyhoeddwyd 17/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2021   |   Amser darllen munud

Mae Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi ei fwriad i beidio â gohirio’r etholiad, ac mae pawb sy'n rhan o’r gwaith cynllunio yn gweithio tuag at gynnal yr etholiad ar 6 Mai

Fodd bynnag, mae'r Senedd wedi pasio'r ddeddfwriaeth frys hon rhag ofn, a fyddai'n caniatáu i'r Prif Weinidog gynnig i'r Llywydd bod yr etholiad yn cael ei symud, os yw'n teimlo ei fod yn angenrheidiol neu'n briodol, er mwyn cynnal etholiad diogel a theg oherwydd o'r pandemig. Dim ond pe bai o leiaf 40 aelod o'r Senedd (dwy ran o dair) yn pleidleisio o blaid dyddiad newydd a gynigiwyd gan y Senedd y byddai hyn yn digwydd

Mae goblygiadau i fusnes y Senedd, serch hynny, o ganlyniad i'r Ddeddf.

Mae'r Llywydd wedi ysgrifennu at yr holl Aelodau i amlinellu goblygiadau'r Ddeddf ar gyfer gwaith y Senedd. Gallwch ddarllen y llythyr llawn yma.

Mae'r Ddeddf yn byrhau'r cyfnod diddymu arferol (a fyddai fel arfer yn dechrau ar 7 Ebrill), i ddechrau un wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Mae hynny’n golygu y bydd y diddymiad yn cychwyn ar 29 Ebrill. O ganlyniad, bydd Aelodau'n parhau’n ffurfiol i fod yn Aelodau o’r Senedd am gyfnod hirach na’r arfer, gan gynnwys tair wythnos yn ystod cyfnod yr etholiad (h.y. rhwng 7 a 28 Ebrill).

Pwrpas y diddymiad byrrach yma yw galluogi unrhyw bwerau newydd i ohirio'r etholiad i gael eu harfer hyd at un wythnos cyn yr etholiad; ac i alluogi'r Senedd i ymateb, os oes angen, i faterion iechyd cyhoeddus sy'n datblygu yn y cyfnod cyn yr etholiad. 

Mae'r Pwyllgor Busnes (sy’n gyfrifol am drefnu gwaith y Senedd) wedi penderfynu, cyn belled ag y bo modd, y dylai fod sefyllfa gyfartal ar gyfer pob ymgeisydd yn ystod cyfnod yr etholiad.  Mae wedi cytuno, felly, y bydd y Senedd ar doriad rhwng 7 Ebrill a 28 Ebrill, sef y ‘cyfnod cyn y diddymiad’.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai'r Senedd yn cael ei hadalw am faterion nad ydynt yn gysylltiedig â'r Bil.