Deddfwriaeth newydd hanesyddol wedi’i basio gan y Cynulliad
Cafodd hanes ei greu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (ddydd Mawrth 6 Mai) pan basiwyd Mesur cyntaf erioed y Cynulliad, sef Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007. Bydd y Mesur yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gleifion hawlio iawndal pan mae triniaeth a ddarparwyd gan y GIG wedi bod yn esgeulus.
Hwn yw’r deddfwriaeth sylfaenol gyntaf erioed i gael ei gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, y gyfraith gyntaf i gael ei phasio yng Nghymru ers i Hywel Dda lunio cyfreithiau yn y ddegfed ganrif a’r gyfraith ddwyieithog gyntaf erioed i gael ei phasio ym Mhrydain.
Bydd y Mesur nawr yn cael ei gyflwyno i EM Y Frenhines i’w gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor. Unwaith y derbynnir Cymeradwyaeth Frenhinol, bydd y Mesur yn gyfraith yng Nghymru.
Dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Rwy’n falch fy mod wedi cadeirio’r drafodaeth gyntaf a gynhaliwyd yn ystod camau terfynol Mesur arfaethedig y Cynulliad a fy mod wedi goruchwylio pasio’r gyfraith gyntaf i gael ei gwneud yng Nghymru er dyddiau Hywel Dda. Mae’r ffaith bod hyn wedi digwydd cyn pen blwyddyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru ddod yn gyfraith yn deyrnged i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru a Senedd y DU - bu pob un ohonynt yn barod ac yn abl i ymateb i’r her o sicrhau bod y broses ddeddfu newydd yn gweithio.
“Rwy’n falch gyda’r ffordd yr ydym wedi ymateb i’r heriau a wynebwyd yn sgil pwerau deddfu newydd Cyfansoddiad Cymru er mis Mai diwethaf. Rydym wedi gweld Mesurau yn cael eu cyflwyno, a chyfres o Orchmynion Deddfwriaethol arfaethedig, i ennill pwerau, gan Weinidogion Cymru a gan ACau unigol.”
Nodiadau i olygyddion: Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 y pwerau i’r cynulliad wneud cyfreithiau, a elwir yn Fesurau, mewn meysydd lle mae ganddo bwerau datganoledig. Gall Mesurau gael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad unigol neu Bwyllgorau. Cafodd y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG ei gynnig gan y Llywodraeth. Mae proses pedwar cyfnod ar gyfer ystyried Mesur arfaethedig:
Cyfnod 1 – ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a chytuno arnynt;
Cyfnod 2 – ystyriaeth fanwl o’r Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad;
Cyfnod 3 - ystyriaeth fanwl o’r Mesur ac unrhyw welliannau a gaiff eu dethol mewn Cyfarfod Llawn;
Cyfnod 4 – pasio testun terfynol y Mesur.
O ran y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, digwyddodd cyfnodau 3 a 4 gyda’i gilydd.