Galwad i adolygu cynllun traffig dadleuol y 'Llwybr Coch' yng Nglannau Dyfrdwy yn sgil pandemig y Coronafeirws

Cyhoeddwyd 02/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2021   |   Amser darllen munud

Dylid rhoi ystyriaeth fanwl i effeithiau hirdymor pandemig COVID-19 ar batrymau traffig cyn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun arfaethedig i wella Coridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548, sef cynllun y 'Llwybr Coch'.

Dyma un o’r argymhellion sydd wedi’i gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw,dydd Mawrth 2 Mawrth, gan Bwyllgor Deisebau y Senedd.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i’r cynllun ffordd arfaethedig wedi i’r ddeiseb, a ddenodd 1,409 o lofnodion, gael ei chyflwyno i’r Senedd ym mis Mehefin 2019. Mae’r ddeiseb yn annog Llywodraeth Cymru i dynnu ei chefnogaeth yn ôl i'r 'Llwybr Coch' arfaethedig, gan nodi’r pryderon sy’n bodoli ynghylch effaith y cynllun ar goetir hynafol, cost y gwaith a'r angen i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Yn ei adroddiad, mae'r Pwyllgor yn galw am ailasesiad manwl o gostau'r cynllun, ac yn argymell bod unrhyw gamau o’r prosiect yn y dyfodol yn cael eu hasesu yn erbyn y canllawiau trafnidiaeth diweddaraf. Mae hefyd yn argymell bod gwaith dylunio yn cael ei wneud i leihau'r effaith ar goetir hynafol, ac yn nodi bod angen ystyried newidiadau hirdymor i batrymau ac ymddygiadau teithio yng ngoleuni COVID-19.

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau:

“Yn ystod yr ymchwiliad clywodd y Pwyllgor ddadleuon cryf ar ddwy ochr y mater hwn. Codwyd pryderon gyda ni ynghylch effaith amgylcheddol y llwybr arfaethedig, ynghyd â dadleuon a oedd yn cefnogi'r angen am y ffordd newydd er mwyn lleddfu tagfeydd traffig yn yr ardal ac er mwyn cefnogi swyddi lleol a'r economi. Yr hyn nad oedd modd ei ragweld ar ddechrau ein hymchwiliad oedd COVID-19, a'r effaith y byddai'r pandemig yn ei chael ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. 

“Ar ôl trafod y dystiolaeth, mae’r Pwyllgor wedi dod i’r casgliad y byddai’n ddoeth i Lywodraeth Cymru ystyried effaith tymor hwy y pandemig ar batrymau gwaith a theithio, a hynny cyn iddi ymrwymo i waith dylunio manwl pellach a phenderfyniad terfynol ynghylch a ddylid adeiladu'r ffordd newydd.

“Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion eraill ynghylch y broses o arfarnu'r cynllun, ei gostau a'i ddyluniad manwl. Rydym wedi gwneud hynny gan gydnabod bod etholiad y Senedd sydd ar ddod yn golygu y bydd penderfyniadau pellach yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Gymru yn y dyfodol ac mai’r Senedd nesaf fydd yn gwneud unrhyw waith craffu pellach arnynt.”

 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys chwe argymhelliad. Yn eu plith, mae’r argymhellion a ganlyn:

  • Na fydd gwaith dylunio manwl na rhagor o asesiadau effaith mewn perthynas â'r cynllun arfaethedig nes bod effeithiau pandemig COVID-19 ar batrymau traffig wedi'u hasesu'n llawn. Dylai'r dystiolaeth hon fod ar gael i'w hystyried fel rhan o unrhyw ymchwiliad cyhoeddus y mae'r cynllun arfaethedig yn ddarostyngedig iddo.
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw gynllun ffyrdd sy'n cael ei weithredu’n rhan o becyn ehangach o welliannau trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal a bod cynlluniau megis Metro Gogledd Cymru yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
  • Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gwneir digon o waith ymgynghori gyda sefydliadau gan gynnwys Coed Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod cam dylunio manwl y cynllun i liniaru a lleihau effeithiau ar ardaloedd o goetir hynafol.
  • Dylai unrhyw ymchwiliad cyhoeddus a gynhelir ar ôl cyhoeddi'r Gorchmynion drafft gael llawer o gyhoeddusrwydd a bod yn hygyrch i'r holl breswylwyr mewn ardaloedd y gall y llwybr neu waith adeiladu ffordd newydd effeithio arnynt.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiad Deiseb P-05-886 - Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)