Delyth Jewell wedi ei dychwelyd fel Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru

Cyhoeddwyd 16/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/01/2019

Mae Delyth Jewell wedi ei dychwelyd fel Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Dwyrain De Cymru yn dilyn marwolaeth drist Steffan Lewis.

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cael ei hysbysu gan Swyddog Canlyniadau Rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Bydd Delyth Jewell yn tyngu llw maes o law.