Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn cefnogi’r cynnig i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol yng nghyfraith Cymru.
Ar 25 Mawrth 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Mae’r Bil hwn yn cynnig diddymu amddiffyniad y gyfraith gyffredin o gosb resymol i unrhyw riant (neu unrhyw oedolyn sy’n gweithredu fel rhiant) sy’n cael ei gyhuddo o guro neu ymosod ar blentyn. Os caiff ei basio, bydd y gyfraith hon yn golygu na fydd hi’n gyfreithiol mwyach i blant yng Nghymru gael eu cosbi’n gorfforol.
Wrth ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil, rôl y Pwyllgor yw llywio penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch a ddylai’r ddeddfwriaeth arfaethedig symud ymlaen i’r cam nesaf wrth ddod yn gyfraith. Bydd angen i’r Bil fynd trwy sawl cam arall cyn dod yn gyfraith, a’r chwe deg Aelod Cynulliad fydd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol. Heddiw mae’r Pwyllgor yn adrodd ar y dystiolaeth o blaid ac yn erbyn y Bil ac yn gwneud argymhellion ynghylch pa gamau y mae’n credu y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd.
Argymhellion y Pwyllgor
Mae mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi Bil Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn argymell dau beth sy’n hanfodol yn eu barn nhw er mwyn i’r Bil fod o fudd i blant a’u teuluoedd:
Mae’n hanfodol fod ymgyrch eang yn cael ei gynnal er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr hyn y bydd y Bil hwn yn ei wneud. Mae’r Pwyllgor yn credu bod hyn yn sylfaenol i lwyddiant y ddeddfwriaeth hon ac, felly, mae’n rhaid bod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gyflawni hyn.
Rhaid bod cefnogaeth gyffredinol ar gael i rieni ledled Cymru. Mae angen gwneud llawer mwy i helpu pob teulu gyda’r heriau anochel a ddaw yn sgil magu plant.
Nid yw Suzy Davies AC a Janet Finch-Saunders AC yn cefnogi’r Bil.
Clywed pob ochr i’r ddadl
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus a sesiynau tystiolaeth er mwyn casglu a chyflwyno barn ar ddwy ochr y ddadl.
Daeth 650 o ymatebion i’r ymgynghoriad - 562 gan unigolion a oedd yn ymateb mewn rhinwedd bersonol, 29 yn ymateb mewn rhinwedd broffesiynol a 59 ymateb gan sefydliadau. Yn ogystal â dadansoddiad y Pwyllgor ei hun, comisiynwyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal dadansoddiad gwyddor data annibynnol o’r ymatebion, i nodi’r prif faterion a godwyd gan ymatebwyr.
Wrth lansio’r adroddiad ar ran y Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd, Lynne Neagle AC:
“Fel Pwyllgor, rydym yn cydnabod yn llwyr bod safbwyntiau cryf ar ddwy ochr y ddadl ynghylch a ddylai Bil Llywodraeth Cymru ddod yn gyfraith. Diolch i bawb sydd wedi cyflwyno tystiolaeth er mwyn nodi eu barn ac hefyd i’r rhieni a’r cynrychiolwyr o sefydliadau a wnaeth ddod i siarad yn uniongyrchol â ni. Rydym wedi derbyn llawer o wybodaeth fanwl, wedi clywed ystod eang o safbwyntiau ac wedi rhoi ystyriaeth fanwl i ehangder y dystiolaeth sydd ar gael inni.
“Rhan bwysig o’n gwaith oedd clywed gan y rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen sy’n gyfrifol am amddiffyn plant. Ymhlith y rhai yr ydym wedi siarad â nhw mae’r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaethau Cymdeithasol, cynrychiolwyr athrawon ac ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd, pediatregwyr a seiciatryddion.
“Yn ddieithriad, mae’r gweithwyr proffesiynol rheng flaen hyn wedi dweud wrthym y bydd y Bil hwn yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy’n byw yng Nghymru gan y bydd yn gwneud y gyfraith yn glir. Dywedwyd wrthym y bydd hyn, o ganlyniad, yn eu helpu i amddiffyn plant yn well. Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthym hefyd y bydd y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol gan y bydd yn cynnig llinell glir iddynt ac, yn fwy pwysig, ffiniau clir y gall rhieni, plant a’r cyhoedd eu deall.
“Ar ôl pwyso a mesur, mae mwyafrif y Pwyllgor yn credu bod dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau’r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc.
“Ar ôl ystyried y Bil Llywodraeth Cymru hwn yn ofalus, heddiw rydym yn amlinellu’r dystiolaeth fanwl sy’n sail i’n casgliad ac rydym wedi amlinellu’r argymhellion sydd eu hangen yn ein barn ni i gryfhau’r ddeddfwriaeth.”
Cynhelir dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Medi 2019. Yn ystod y ddadl hon, bydd cyfle i holl Aelodau’r Cynulliad drafod y Bil. Ar ôl y ddadl, gofynnir i Aelodau’r Cynulliad bleidleisio p’un a ddylai’r Bil symud ymlaen i’r cam nesaf.
Darllen yr adroddiad llawn: