Diffyg ariannol GIG Cymru yn dal i gynyddu, yn ôl adroddiad newydd y Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd 15/11/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Diffyg ariannol GIG Cymru yn dal i gynyddu, yn ôl adroddiad newydd y Pwyllgor Archwilio

Dechreuodd y GIG yng Nghymru flwyddyn ariannol 2006/7 â diffyg ariannol sylweddol ar ôl 2005/06,a hynny ar ben y ddyled hanesyddol y mae rhai o gyrff y GIG i fod i’w chlirio, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 15). Mae’r adroddiad, A yw’r GIG yng Nghymru’n ymdopi o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael iddo? yn dweud  bod angen i’r GIG ymateb i’r heriau a’r pwysau hyn mewn modd cynaliadwy gan gyflwyno ar yr un pryd y gwelliannau i gleifion, o ran amseroedd aros am driniaeth, sydd i’w cyflawni erbyn 2009. Bu’r flwyddyn ariannol 2005/06 yn her sylweddol i’r GIG yng Nghymru. Rhan o’r her oedd gweithredu’r fenter moderneiddio tâl ar gyfer staff nad ydynt yn staff meddygol sef yr “Agenda ar gyfer Newid”, gwella parhaus wrth leihau cyfnodau aros i gleifion gael derbyn gwasanaethau, a phrisiau ynni sy’n cynyddu’n gyflym.   Canfu ymchwiliad y Pwyllgor fod gwahanol gyrff lleol y GIG yn amrywio’n fawr yn eu ffyrdd o ymdopi â’r pwysau hyn, ond erbyn canol 2005/06 roedd un ar ddeg o gyrff lleol y GIG a Chomisiwn Iechyd Cymru yn rhagweld diffyg ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn ôl pob golwg byddai cyfanswm diffyg ariannol y GIG yn cyrraedd £30 miliwn. Mae perfformiad ariannol Comisiwn Iechyd Cymru(HCW) yn destun cryn bryder i’r Pwyllgor. Os na fydd penodiadau diweddar i swyddi uchel yn golygu cryn welliant o ran gallu rheolaethol, mae’r adroddiad yn argymell nifer o bethau sy’n cynnwys adolygu’n sylfaenol swyddogaeth HCW, ei atebolrwydd a’i drefniadau cyllido.   Mae’n argymell hefyd y dylai LlCC gwblhau’i adolygiad o drefniadau rheoli arian yn y GIG mewn partneriaeth â chyrff lleol y GIG a Swyddfa Archwilio Cymru. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Pwyllgor yn derbyn bod 2005-06 yn flwyddyn anodd, gyda chodiadau cyflog uwch na chwyddiant ar gyfer staff nad ydynt yn staff meddygol dan yr ‘Agenda ar gyfer Newid’, costau ynni’n cynyddu’n gyflym, a’r gofyn sydd am leihau cyfnodau aros. Mae rhai o gyrff y GIG yn ymdopi â’r pwysau hyn ond nid felly pob un. Ni ddylid cosbi’r rhai sydd yn ymdopi. “Mae’n rhaid talu dyledion hanesyddol o hyd ac rwy’n pryderu’n fawr nad yw’r   Rhaglen Newid Strategol ac Effeithlonrwydd mewn rhai o gyrff y GIG wedi llwyddo i wneud hyn. Nid yw cyrraedd sefyllfa ariannol gynaliadwy yn hawdd yn wyneb y gofynion newydd a chyfnewidiol sydd ar y GIG, ond mae rhai sefydliadau’n llwyddo. “Mae’r ffaith fod y GIG bellach yn derbyn llawer iawn mwy o gyllid nag y gwnaeth yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynulliad Cenedlaethol yn codi cwestiwn  mawr ynglyn â’r rheoli.”