“Cafodd ysgolion eu cau, mae clybiau wedi eu cau, allan nhw ddim cymdeithasu. Mae’r holl bethau hyn wedi effeithio ar blant ac maen nhw’n poeni, achos mae ‘na lot o bryder am Coronafeirws.” – Dr David Tuthill, o Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Mae COVID-19 wedi effeithio ar bawb, ond mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (9 Hydref) yn pwysleisio effaith niweidiol y pandemig ar iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc.
Mae adroddiad pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach sy’n cael ei gyhoeddi ar 9 Hydref - i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref – yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud llawer mwy i helpu plant a phobl ifanc.
Ar ôl casglu tystiolaeth, mae'r Pwyllgor o'r farn, er fod agwedd ysgolion tuag at iechyd emosiynol a meddyliol wedi gwella rhywfaint, nad yw’r newidiadau ar draws holl wasanaethau cyhoeddus yn digwydd yn ddigon cyflym – gan gynnwys yn y GIG a llywodraeth leol. Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu, oherwydd effeithiau’r pandemig, fod angen y newidiadau hyn yn fwy nag erioed o'r blaen.
Ar yr un diwrnod, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn lansio ei hadroddiad ar iechyd emosiynol a meddyliol pobl ifanc, sef Gadewchi ni Siarad am Iechyd Meddwl, ar ôl clywed profiadau llawer o bobl ifanc ledled Cymru. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn galw am ddarparu mwy o gefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc.
Plant a phobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i gefnogaeth
Yn ei adroddiad Cadernid Meddwl yn 2018, nododd y Pwyllgor fod angen newid mawr yn y gefnogaeth a’r gwasanaethau iechyd emosiynol a meddyliol sydd ar gael. Clywodd y Pwyllgor gan bobl sy'n gweithio yn y maes nad oedd digon yn cael ei wneud i helpu plant a phobl ifanc.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac yn sgil pandemig y Coronafeirws, mae'r Pwyllgor yn lansio ei adroddiad dilynol sy'n dangos bod ein plant a'n pobl ifanc yn dal i gael trafferth dod o hyd i'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol. Mae problemau ym mhob cam o’r gefnogaeth: yn y camau cynnar, a all helpu i atal problemau rhag datblygu, ac yn y camau hwyrach, pan fydd pethau wedi dirywio a phan fydd angen gofal arbenigol.
Ers ei adroddiad Cadernid Meddwl gwreiddiol yn 2018, mae'r Pwyllgor wedi cadw llygad barcud ar waith Llywodraeth Cymru ac wedi monitro’r modd y mae’n rhoi ei argymhellion ar waith. Mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth gan Weinidogion, gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl ifanc i lywio'r gwaith dilynol hwn, ac mae hefyd wedi tynnu ar ganfyddiadau ei waith craffu parhaus o ran y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i reoli effaith pandemig y Coronafeirws ar blant a phobl ifanc.
Fe allwn ac mae'n rhaid i ni wneud yn well
Fe gollodd Nikki a Jeff Jones eu merch ddwy flynedd yn ôl. Roedd Manon newydd droi’n 16 oed pan gymerodd ei bywyd ei hun ar ôl dioddef cyfnodau hir o iselder. Cafodd ei marwolaeth effaith ddwys ar ei theulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach ym Mhontcanna, Caerdydd. Ers hynny mae ei rhieni, a'i chwaer Megan, wedi creu Sefydliad Manon Jones i gynnig cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol i bobl ifanc sy'n cael trafferthion iechyd meddwl yn ogystal ag i'w ffrindiau a'u teulu.
Meddai mam Manon, Nikki Jones:
“Fel teulu rydym wir yn gwerthfawrogi’r cyfle mae adroddiad Cadernid Meddwl yn ei gyflwyno ar gyfer gwthio am newid sylweddol er budd lles emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru.
“I ni, mae’n bersonol iawn. Mae yna dwll maint Manon yn ein bywydau ac ym mywydau ei holl ffrindiau hefyd wrth iddyn nhw gychwyn ar fywyd hebddi wedi gadael yr ysgol. Fe geisiodd Manon mor galed i aros yn fyw ac, pe bai hi wedi llwyddo, ry’ ni’n credu byddai wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol wych i Gymru.
“Mae angen help ar bobl ifanc, eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu hysgolion, i gydnabod pan fydd brwydrau’n mynd yn drech na nhw ac, yn holl bwysig, er mwyn gwybod pryd a ble i droi am help. A phan fyddan nhw’n gofyn am gymorth, mae’n rhaid i’r gefnogaeth fod yn amserol, effeithiol a diogel, ym mhob rhan o Gymru.
“Dwy flynedd ers colli Manon ac ers cyhoeddi’r adroddiad Cadernid Meddwl, mae’r sefyllfa dal yn rhy gymhleth, anghyson ac yn gyfyng o ran amser. Nid yw cyflymder y newid yn adlewyrchu'r ffaith mai hunanladdiad, y canlyniad gwaeth posib o’r methiannau yma, yw’r prif achos marwolaeth ymhlith plant a phobl ifanc. Fe allwn ac mae'n rhaid i ni wneud yn well. ”
Fel rhan o'i waith ar y pandemig, dywedodd Dr David Tuthill o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wrth y Pwyllgor:
“Mae'n debygol iawn na fydd y feirws yn effeithio'n uniongyrchol ar blant o ran salwch corfforol.
“Yr hyn sydd wedi effeithio arnyn nhw’n fawr yw’r difrod anuniongyrchol - neu collateral damage, os gallaf ei alw’n hynny – cafodd ysgolion eu cau, clybiau eu cau, gallan nhw ddim cymdeithasu. Mae’r holl bethau hynny wedi effeithio ar blant ac maen nhw yn pryderu llawer, achos mae’r Coronafeirws yn peri cryn ofid oherwydd beth maen nhw’n ei glywed amdano. Mae’n bosibl fod mam-gu neu dad-cu wedi marw, ac maen nhw’n clywed bod miloedd o bobl wedi marw.”
Lynne Neagle AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Yn yr adroddiad Cadernid Meddwl yn 2018, roeddem yn glir ein bod yn disgwyl gweld newid sylweddol a chynaliadwy yn y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl ac emosiynol plant a phobl ifanc erbyn mis Mai 2021.
“Er ein bod yn cydnabod pwysau pandemig y Coronafeirws ar Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, rydym o’r farn bod sgil effeithiau’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ar ein plant a’n pobl ifanc yn golygu ei bod yn fwy hanfodol nag erioed i ganolbwyntio ar iechyd emosiynol a meddyliol plant. Rhwng nawr ac etholiad mis Mai nesaf, byddwn yn parhau i wthio am newid ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd yn y maes hanfodol hwn.
“Yn ein hadroddiad gwreiddiol, dywedom nad oeddem yn fodlon i’r mater hwn gael ei drosglwyddo eto i Bwyllgor yn y dyfodol, a fydd yn dod i’r un casgliad unwaith eto fod “angen gwneud rhagor o waith”. Rydym yn bwriadu cadw ein haddewid i bobl Cymru a gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn rhoi ein hargymhellion ar waith.”
Gydag ond 7 mis i fynd tan yr etholiad a diwedd y Senedd hon, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n gyflymach a blaenoriaethu'r mater. Mae’r Pwyllgor yn nodi’r canlynol:
Nid yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym
Rydym yn gwybod nad yw'r hyn y gofynnwn amdano bob amser yn hawdd, ac rydym yn gwybod nad oes cyflenwad diderfyn o arian. Fodd bynnag, rydym o’r farn bod hon yn brif flaenoriaeth os ydym ni'n mynd i gael pethau'n iawn ar gyfer cenedlaethau o blant a phobl ifanc a fydd yn llunio dyfodol Cymru. Mae angen gwneud mwy i wella pethau’n fwy cyflym.
Mae angen canolbwyntio ar newid y system gyfan
Rydym yn cydnabod bod llawer o wasanaethau yn gwneud llawer o bethau da iawn i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, rydym o’r farn bod angen gwneud mwy i wneud yn siŵr bod pob gwasanaeth yn chwarae rhan, a'u bod i gyd yn gweithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw blentyn neu berson ifanc – ble bynnag maen nhw'n chwilio am help – yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Mae effaith pandemig y Coronafeirws yn gwneud yr angen am gynnydd yn fwy angenrheidiol nag erioed
Er ein bod ni’n cydnabod ei bod yn ymddangos bod plant a phobl ifanc yn llai tueddol o gael eu heffeithio gan y Coronafeirws nag oedolion, nid oes llawer o amheuaeth bod effeithiau ehangach COVID-19 – a'r mesurau a gymerwyd i'w reoli – wedi effeithio'n sylweddol ar eu bywydau. Cafodd yr effeithiau ehangach hyn eu disgrifio i ni fel y ‘canlyniad anuniongyrchol’ i blant a phobl ifanc yn sgil y pandemig, effeithiau sy’n cynnwys pryder am gyfnodau i ffwrdd o'r ysgol, clybiau, teulu a ffrindiau.
Mae'r adroddiad - Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach - ar gael yma
Mae'r Pwyllgor, ynghyd â'r rhai a roddodd dystiolaeth, wedi ystyried pob un o'i argymhellion o 2018 ac wedi asesu cynnydd Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cael cais i ymateb.