Digwyddiad hanesyddol yn digwydd am y tro cyntaf, wrth i’r Llywydd groesawu ei chyfoedion yn y DU i drafodaethau pedair ochrog

Cyhoeddwyd 02/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Digwyddiad hanesyddol yn digwydd am y tro cyntaf, wrth i’r Llywydd groesawu ei chyfoedion yn y DU i drafodaethau pedair ochrog

2 Mawrth 2012

Heddiw (2 Mawrth) roedd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu ei chyfoedion o dair Senedd arall y DU i’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae John Bercow, Llefarydd San Steffan, Tricia Marwick MSP, Llywydd Senedd yr Alban a William Hay MLA, Llywydd Cynulliad Gogledd Iwerddon, yng Nghaerdydd ar gyfer Cyfarfod pedair ochrog y Llywyddion/ Llefarwyr.

Dyma’r tro cyntaf i’r pedwar gwrdd wyneb yn wyneb yng Nghymru i drafod materion sydd o ddiddordeb cyffredin ynghylch sut y cynhelir busnes Seneddol a’r broses ddeddfu.

Roedd thema’r agenda yn amrywio o gyllidebau’r dyfodol mewn cyfnod o gyni ariannol, i faterion Ewropeaidd sy’n effeithio ar y pedair Senedd, a threfniadau ar gyfer grwpiau trawsbleidiol a lobïo.

Dywedodd Mrs Butler, “Mae’n fraint fawr i mi fel Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i groesawu fy nghyfoedion o Seneddau eraill y DU i Gymru.

“Er mai holl ddiben datganoli yw canfod yr atebion ein hunain i’r problemau y mae pob gwlad unigol yn eu hwynebu, rwy’n credu hefyd y gallwn ddysgu gan ein gilydd a chydweithio o ran sut rydym yn mynd i’r afael â’r broses ddeddfu.

“Er enghraifft, mae Llywodraeth San Steffan wrthi’n ymgynghori ar hyn o bryd â’r Seneddau datganoledig ynghylch sefydlu cofrestr o Lobïwyr.

“Fy neges i heddiw oedd bod gennym ni yng Nghymru fesur cadarn ar waith eisoes i reoli’r berthynas sydd gan yr Aelodau â sefydliadau allanol ac y credwn y dylai’r Cynulliad fod yn gyfrifol am wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch llywodraethu pellach yn y maes hwn.”

Caiff cyfarfod pedairochrog y Llywyddion / Llefarwyr ei gynnal bob chwe mis.

Mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal yng Nghymru cyn hyn rhwng y gwahanol Lywyddion a Llefarydd, ond dyma’r tro cyntaf i’r pedwar fod yng Nghymru gyda’i gilydd.