Disgyblion ysgol mewn dosbarth

Disgyblion ysgol mewn dosbarth

Dim digon o athrawon cyflenwi i ateb y galw

Cyhoeddwyd 11/12/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/12/2024   |   Amser darllen munud

Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi clywed bod argaeledd athrawon cyflenwi yn gwneud pethau’n anodd i ateb y galw amdanynt, a bod ysgolion weithiau’n gorfod cyflogi staff nad ydynt â’r cymwysterau i gyflenwi.

Yn ei asesiad o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater, daeth Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd i’r casgliad, er bod camau pwysig wedi’u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i wella’r sefyllfa, bod cynnydd yn parhau’n rhy araf a bod hyn er colled i ddisgyblion.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i fesur y cynnydd a wnaed ers i adroddiad o bwys gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2020 ddenu sylw at nifer o broblemau yr oedd angen i Lywodraeth Cymru ymdrin â nhw o fewn y system athrawon cyflenwi.

Roedd dod o hyd i gyflenwad digonol mewn ardaloedd gwledig a diffyg athrawon i addysgu Cymraeg a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg yn faterion o bwys a amlygwyd yn 2020, ac mae’n parhau’n broblem benodol heddiw.

Mae diffyg data am absenoldebau athrawon am resymau heblaw salwch, a diffyg manylion am sut y mae ysgolion yn defnyddio fframwaith asiantaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru i logi staff cyflenwi, hefyd yn ei gwneud yn anodd mesur pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn perfformio, ac asesu a yw’r trefniadau’n rhoi gwerth am arian.

Amlygwyd anfanteision hefyd gyda’r cymhellion recriwtio a chadw athrawon, ac mae’r Pwyllgor yn rhwystredig nad yw’r Gronfa Cyflenwi Cenedlaethol yng Nghymru, sef llwyfan archebu ar-lein i ysgolion ddod o hyd i athrawon, wedi’i chyflwyno’n genedlaethol hyd yma.

Safon y cyflenwad addysg yn wirioneddol bwysig

Mark Isherwood AS yn y Siambr

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd:

“Dywedir y gall athro da newid popeth, ond pan fydd yr athro hwnnw’n anochel yn absennol, mae safon y trefniadau cyflenwi yn bwysig iawn. Rhaid inni ddarparu’r ddarpariaeth orau bosibl i gyflenwi absenoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel na fydd addysg plant yn dioddef yn ormodol.  

“Mae’n hanfodol felly bod gennym gyflenwad digonol o athrawon cyflenwi sy’n cael eu talu’n ddigonol, yn gymwys ac uchel eu cymhelliant, ar draws pob oedran a phwnc, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

“Er bod camau pwysig wedi’u cymryd, mae’r Pwyllgor yn pryderu bod cynnydd yn rhy araf a lle mae camau’n cael eu cymryd, mae’r diffyg monitro yn golygu na all y llywodraeth fod yn siŵr a yw ei dull yn cael yr effaith a ddymunir.

“Mae’n bwysig nodi yr hoffai’r pwyllgor weld y ‘pwll cyflenwi cenedlaethol’ a drafodwyd ers tro yn cael ei wireddu’n genedlaethol a bod pob athro cyflenwi yn gallu manteisio ar gyflog uwch, pensiwn a hyfforddiant eu cydweithwyr.”

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i gael ei hymateb.

Mwy am y stori hon

Dysgwch mwy am waith y Pwyllgor