Dirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad ar ei ffordd i Ynys Cyprus i drafod polisïau cyflogaeth

Cyhoeddwyd 21/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Bydd grŵp o Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarfod â seneddwyr o bob cwr o'r DU ac Ewrop i drafod diweithdra.

Bydd y ddirprwyaeth o bedwar AC, dan arweiniad y Dirprwy Lywydd David Melding AC, yn bresennol yng nghyfarfod Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Gwledydd Môr y Canoldir (BIMR) o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) ar Ynys Cyprus rhwng 24-27 Mai.

Ar frig yr agenda bydd trafodaeth ar sut y gall seneddau graffu orau ar faterion yn ymwneud â diweithdra, yn enwedig diweithdra ymysg yr ifanc.

Mae'r Dirprwy Lywydd wedi cael gwahoddiad i arwain y drafodaeth mewn sesiwn dan y teitl "Craffu seneddol o bolisïau cyflogaeth llywodraethau".

"Realiti cas y dirywiad economaidd yr ydym wedi'i wynebu ers 2008 yw ei fod wedi cael effaith anghymesur ar bobl ifanc" dywedodd y Dirprwy Lywydd.

"Mae pobl ifanc ledled y DU ac Ewrop yn wynebu anawsterau wrth geisio dod o hyd i waith ac nid yw Cymru'n eithriad i'r duedd hon.

"Rhaid i Seneddau fel y Cynulliad Cenedlaethol chwarae rhan ganolog er mwyn sicrhau bod yna graffu priodol ar bolisïau cyflogaeth llywodraethau er mwyn sicrhau bod y mater yn cael sylw, cyn i ni golli cenhedlaeth gyfan i effeithiau digalon diweithdra hirdymor.

"Dyna pam mae cyfarfodydd fel hyn mor bwysig.  Gall rhannu syniadau gyda chydweithwyr o bob rhan o Ewrop ond ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â mater mor bwysig."

Bydd y Dirprwy Lywydd yn ymuno â Simon Thomas AC, Ann Jones AC a Joyce Watson AC (Cadeirydd Cangen Cymru o'r CPA).