Dirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad yn anelu am Donegal i sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan flaenllaw wrth drafod cytundebau ynni Eingl-Wyddelig y dyfodol

Cyhoeddwyd 28/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad yn anelu am Donegal i sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan flaenllaw wrth drafod cytundebau ynni Eingl-Wyddelig y dyfodol

28 Chwefror 2013

Bydd grwp o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd i Gyfarfod Llawn Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon (BIPA) yn Donegal rhwng 3 a 5 Mawrth.

Hwn fydd 46 Cyfarfod Llawn BIPA, sy'n dwyn ynghyd gwleidyddion o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, deddfwrfeydd Guernsey a Jersey, Senedd Iwerddon a Senedd San Steffan.

Nod y sesiwn hon fydd trafod materion sydd o ddiddordeb i bawb, a thema'r Cynulliad hwn fydd ynni, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ynni adnewyddadwy.

Fel rhan o'r drafodaeth, bydd Aelodau'r Cynulliad am sicrhau y bydd Cymru yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw brosiectau lle y bydd Iwerddon a'r DU yn cydweithredu o ran darparu ynni.

Dywedodd David Melding AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad ac arweinydd y ddirprwyaeth, "Mae Llywodaeth y DU yn ystyried cynlluniau ar hyn o bryd i fewnforio pwer gwynt o Iwerddon i'r Grid Cenedlaethol drwy geblau o dan Fôr Iwerddon i ogledd a gorllewin Cymru.

"Amcangyfrifir y bydd y cynllun gwerth £6bn yn cynhyrchu digon o bwer ar gyfer tair miliwn o gartrefi yn y DU, ond yr hyn sy'n bwysig o ran Cymru yw maint y potensial economaidd.

"Mae potensial ynni adnewyddadwy yn anferth o ran sicrhau dyfodol cynaliadwy i economi Cymru a gallai cysylltiadau ag Iwerddon fod yn allweddol i hynny.

"Mae BIPA yn bwysig iawn o ran cysylltiadau rhyng-seneddol, felly mae'n gwneud synnwyr i mi a'm cyd-Aelodau fynd i'r sesiynau hyn er mwyn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir."

Yn ymuno â Mr Melding yn Donegal, bydd Darren Millar AC, Ken Skates AC a William Powell AC.