​Dirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad yn gosod torch ar gofeb Srebrenica

Cyhoeddwyd 15/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/04/2015

Mae dirprwyaeth o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gosod torch ar gofeb yn Srebrenica i nodi 20 mlynedd ers y gyflafan pan gafodd dros 8,000 o Fwslemiaid Bosnia eu lladd yno.

Ar 11 Gorffennaf 1995, meddiannodd lluoedd Serbia hafan ddiogel i Fwslemiaid Bosnia yn Srebrenica.

Yn ystod y deng niwrnod a ddilynodd, cafodd dros 8,000 o Fwslemiaid eu lladd.

Fel rhan o'r digwyddiadau i gofio'r hil-laddiad 20 mlynedd yn ôl, mae'r Dirprwy Lywydd, David Melding AC, wedi arwain dirprwyaeth yn cynnwys Comisiynwyr y Cynulliad Sandy Mewies AC, Peter Black AC a Rhodri Glyn Thomas AC, i osod torch yng Nghanolfan Goffa Srebrenica-Potocari.

Gwahoddwyd y grŵp gan yr elusen Brydeinig, Remembering Srebrenica.

Yn ôl yng Nghymru, ar 8 Gorffennaf, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal un o dri digwyddiad coffáu swyddogol y DU.

"Mae wedi bod yn brofiad gwylaidd i sefyll yn Srebrenica a gosod torch, gyda'r neges 'Cymru'n cofio Bosnia' arni, i goffáu'r miloedd o Fwslemiaid a lofruddiwyd yn y drosedd ryfel erchyll hon, "meddai'r Dirprwy Lywydd ar ôl y seremoni.

"Mae'n anodd credu bod erchylltra fel hwn wedi digwydd yn Ewrop cyn lleied o amser yn ôl, ac mor fuan ar ôl yr Holocost.

"Mae'n rhaid i ni i gyd gofio am yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica - mae'n rhaid i ni i gyd geisio gwneud cymaint ag y gallwn i sicrhau nad yw'r math hwn o gasineb afresymol at ein cyd-ddyn yn codi ei ben yn unrhyw le.

"Bydd y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn nodi 20 mlynedd ers yr erchylltra hwn ar 8 Gorffennaf, pan fyddwn yn cynnal un o ddigwyddiadau coffáu swyddogol y DU."