Dirprwyaeth o Ogledd Iwerddon i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 07/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dirprwyaeth o Ogledd Iwerddon i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd dirprwyaeth o Aelodau a staff o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher 7 Tachwedd 2007.

Mae’r Aelodau Cynulliad Deddfwriaethol i gyd yn aelodau o bwyllgor a sefydlwyd i ystyried y cynlluniau ar gyfer siambr drafod Cynulliad Gogledd Iwerddon yn y dyfodol ac maent yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol i ddysgu mwy am y defnydd o TGCh yn y Siambr, ac am gyfleusterau darlledu, cyfieithu a Chofnod y Trafodion yn y Senedd.

Caiff y grwp ei arwain gan Ddirprwy Lywydd Cynulliad Gogledd Iwerddon, Francie Molloy ACD a byddant yn cyfarfod â Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr y Cynulliad; ynghyd â Phrif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a staff o’r gwasanaethau TGCh, Gwasanaethau’r Siambr, Cysylltiadau Allanol a Rheoli Swyddfa a Chyfleusterau.

Bydd yr ymwelwyr hefyd yn mynd am daith o amgylch y Senedd ac yn gwylio’r Cyfarfod Llawn o’r oriel gyhoeddus.