Disgyblion yn cymryd rhan mewn Cynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn y Senedd

Cyhoeddwyd 04/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2015

​Bydd cant o fyfyrwyr chweched dosbarth o Gymru benbaladr yn cael profiad ymarferol o fywyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth flynyddol, a gynhelir ar 11 a 12 Chwefror.

Mae'r digwyddiad deuddydd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau a gweithdai sydd wedi'u cynllunio i addysgu myfyrwyr am waith y Cynulliad ac i roi cyfle iddynt roi eu barn ar faterion sy'n bwysig iddynt.

Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi sicrhau bod pobl ifanc wrth galon ymdrech y Cynulliad i gynyddu'r ymgysylltiad â gwaith y Cynulliad, sy'n cynnal y gynhadledd.

Ymhlith y siaradwyr eleni mae Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, a fydd yn ateb cwestiynau gan y myfyrwyr, yr Athro Richard Wyn Jones a fydd yn edrych ar Beth sydd Nesaf ar ôl Refferendwm yr Alban, Desmond Clifford, Prif Ysgrifennydd Preifat Prif Weinidog Cymru, a fydd yn edrych ar y rôl y Gwasanaeth Sifil; Lleu Williams o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, Mathew Francis, Cynorthwy-ydd Materion Cyhoeddus, Prifysgol Caerdydd a Chris Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai i drafod cyfansoddiad y DU sy'n newid, ac yn gweithio gyda'r pedair prif blaid wleidyddol i ysgrifennu maniffestos. Un o'r uchafbwyntiau fydd sesiwn Hawl i Holi gyda chynrychiolwyr o bob un o'r pedair plaid a gynrychiolir yn y Cynulliad.

Gall y myfyrwyr hefyd gyfrannu at yr ymgynghoriad ar Bleidleisio@16 mlwydd oed, sy'n edrych ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16, yn ogystal â chyfrannu yn uniongyrchol at waith y Cynulliad drwy roi eu barn am athrawon cyflenwi, mewn holiadur gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Nod y Gynhadledd yw cwmpasu agweddau ar fanyleb y pwnc 'Llywodraeth a Gwleidyddiaeth' CBAC Safon Uwch sy'n darparu golwg gwych ar waith y Cynulliad, Llywodraeth Cymru a'r pleidiau gwleidyddol i fyfyrwyr. 

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Edrychwn ymlaen at groesawu'r holl gynrychiolwyr i'r gynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth eleni.

"Mae'n bwysig bod y Senedd yn ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru ac mae digwyddiadau fel hyn yn ein galluogi ni i glywed eu barn yn ogystal â rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o sut y gall gwaith y Senedd gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau hwy."

Gall myfyrwyr ddilyn y gynhadledd a chyfrannu ati ar twitter drwy ddilyn @dygynulliad a defnyddio'r hashnod #gpcwales