Diwrnod Mynediad i’r Anabl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 10/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2017

​Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru unwaith eto yn nodi Diwrnod Mynediad i'r Anabl o 10 i 12 Mawrth.

I hyrwyddo'r Senedd fel lleoliad hygyrch, mae'r Cynulliad wedi gwahodd defnyddwyr gwasanaethau Sense Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a grwpiau pobl fyddar neu drwm eu clyw yn y Rhondda a Phont-y-clun i fynd ar deithiau o amgylch yr adeilad eiconig. 

Bwriad y teithiau hyn yw hyrwyddo'r ffaith bod tywyswyr teithiau'r Cynulliad yn gallu cynnig teithiau gydag addasiadau rhesymol ar unrhyw adeg.

Mae'r staff sy'n croesawu ymwelwyr ac yn tywys teithiau wedi cael hyfforddiant Hyder o ran Anabledd. Mae'r Senedd hefyd yn hygyrch o ran cadeiriau olwynion, ac mae pob arwydd yn cynnwys braille.

Cydnabuwyd gwaith y Cynulliad gyda marc siarter 'Yn Uwch na Geiriau' a gwobrau Rhagoriaeth Cymru Action on Hearing Loss, a gwobr Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am fod yn ystyriol o bobl ag awtistiaeth.

Dyma rai o wasanaethau hygyrch y Cynulliad:

  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac is-deitlau ar gael ar Senedd.tv ac ar sianel YouTube y Cynulliad ar gyfer Cwestiynau'r Prif Weinidog;
  • systemau dolen ar gael ar ein hystâd;
  • amrywiaeth o gyfleusterau toiled, gan gynnwys cyfleuster Changing Places, ac ystafell dawel i alluogi pobl i leddfu straen;
  • hyrwyddwyr awtistiaeth ar draws ystâd y Cynulliad Cenedlaethol;
  • hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein gorfodol i'r holl staff.

Dywedodd Ann Jones AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Ar ran y Llywydd a phawb yn y Cynulliad, hoffwn groesawu pawb i'r Senedd fel rhan o'n dathliadau ar gyfer Diwrnod Mynediad i'r Anabl.

"Ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999, ac ers agor y Senedd yn 2006, rydym bob amser wedi bod yn awyddus i sicrhau bod ein gwaith, a'r adeilad yr ydym yn gweithio ynddo, yn hygyrch i bawb.

"Fel senedd, rydym am sicrhau ein bod yn gallu cynrychioli pob un o bobl Cymru, a sicrhau bod gan bawb y cyfle i gymryd rhan yn nemocratiaeth Cymru a'r cyfle i gyfrannu at waith y Cynulliad."

Ceir gwybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ar dudalen hygyrchedd y Cynulliad Cenedlaethol ar ei wefan, yn cynnwys tudalen benodol ar gyfer ymwelwyr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth .

Mwy o wybodaeth am Ddiwrnod Mynediad i'r Anabl. (Saesneg yn unig)