Cafodd diwrnod o fyfyrio cenedlaethol ei gynnal ar ddydd Mawrth 23 Mawrth 2021, i gofio’r bywydau a gollwyd i COVID-19, i ddangos cydymdeimlad â’r teuluoedd sy’n galaru ac i ddiolch i’r bobl sydd wedi gweithio’n ddiflino i ofalu a’n cadw’n ddiogel.
Roedd y diwrnod yn nodi blwyddyn ers i’r cyfnod clo cyntaf ddod i rym. Yn ogystal â chofio'r bywydau a gollwyd, roedd munud o dawelwch am hanner dydd yn gyfle i bawb ystyried effaith y pandemig ar fywydau pob un ohonom.
Ynghyd â dwsinau o adeiladau adnabyddus yng Nghymru, cafodd y Senedd ei goleuo yn felyn er cof am y pobl fu farw ac sydd wedi dioddef.
Y Senedd oedd canolbwynt y coffau yng Nghymru, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford AS arwain y teyrngedau mewn digwyddiad a ddarlledwyd yn fyw ar BBC One Wales a S4C.
Wrth dalu teyrnged a chofio aberth y flwyddyn ddiwethaf, gosododd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS dorch o flodau ar risiau'r Senedd.
Meddai Llywydd y Senedd, Elin Jones AS:
“Mae heddiw yn gyfle i ddangos undod ac empathi fel cenedl, fel rydyn ni wedi gwneud lawer gwaith yn ystod y flwyddyn, ac fel mae'n rhaid i ni barhau i wneud. Mewn misoedd a blynyddoedd i ddod, bydd llawer o gyfleoedd inni fel Senedd fyfyrio ar effaith y pandemig ar bob agwedd ar fywyd Cymru. Ac i ddylunio dyfodol ein cenedl.
“Ac wrth i ni gyd-drafod a dychmygu dyfodol ein cenedl, ac wrth i’r haul ddod eto ar fryn, byddwn yn cofio’r bywydau a gollwyd a’r bywydau a newidiwyd am byth gan y clefyd hwn.”
Roedd teyrngedau hefyd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS, ac Adam Price AS, arweinydd Plaid Cymru.
Fe wnaeth Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, ddarllen cerdd a gomisiynwyd yn arbennig.