Dryswch ynghylch y system adnabod electronig yn ddrwg i’r diwydiant ffermio

Cyhoeddwyd 29/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dryswch ynghylch y system adnabod electronig yn ddrwg i’r diwydiant ffermio

Dylid rhoi sylw i bryderon ffermwyr Cymru ynglyn â’r system dagio defaid newydd arfaethedig cyn ei chyflwyno, yn ôl Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd y Pwyllgor wedi synnu o glywed faint o ddryswch sydd ynghylch cyflwyno’r system adnabod electronig ac nid yw’n credu bod hyn yn beth da i’r diwydiant na’r Llywodraeth.

Disgwylir i’r system adnabod defaid yn electronig (EID) ddod i rym ar 31 Rhagfyr eleni. Mae’n cael ei chyflwyno o ganlyniad i   gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd a gymeradwywyd mewn ymateb i glwy’r traed a’r genau yn 2001.

Er bod y Pwyllgor yn cydnabod y pryderon a gyflëwyd ynghylch y system, mae hefyd yn cydnabod y gallai cyflwyno’r system fod o fydd i’r diwydiant amaethyddol, yn enwedig o ran cynyddu gwerth cynnyrch ac fel dull o reoli ffermydd.

Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynglyn â’r pryderon ynghylch safon y cyfarpar a ddefnyddir ac mae’n ymwybodol mai dim ond os yw’r cyfarpar a ddefnyddir yn gywir ac os oes gan y diwydiant hyder ynddo y bydd y buddiannau i’r diwydiant yn cronni. Felly, mae’n argymell y dylid cyflwyno’r system pan fydd y cyfarpar a’r prosesau’n ddigon cadarn.

“Mae’r Pwyllgor yn credu na ellir cyflwyno’r system adnabod electronig yn llawn nes y penderfynir bod y cyfarpar yn gywir a bod gan y diwydiant hyder ynddo,” meddai Alun Davies AC, cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu y dylid mabwysiadu un safon ar gyfer y cyfarpar a ddefnyddir i roi’r system ar waith.”

Mae’r Pwyllgor hefyd yn cydnabod pryderon ffermwyr ynglyn â chydymffurfio a’r rheoliadau tagio a chael eu taliadau o dan y cynllun taliad sengl.

Dyna pam mae Aelodau’n annog y Gweinidog i barhau i ddylanwadu ar fanylion y rheoliad terfynol ac i ystyried y materion hyn yn ystod yr ymgynghoriad.

Cliciwch i weld yr adroddiad yn llawn