Dweud eich dweud am strategaeth cydraddoldeb y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 05/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dweud eich dweud am strategaeth cydraddoldeb y Cynulliad Cenedlaethol

5 Hydref 2011

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datblygu cynllun cydraddoldeb strategol newydd a hoffai i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb gyfrannu at y broses.

Mae cynllun cydraddoldeb presennol y Cynulliad yn dod i ben yn 2012 ac, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’r Cynulliad yn datblygu cynllun newydd a gaiff ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2012.

Yn benodol, hoffai’r tîm Cydraddoldeb wybod yr hyn a ganlyn:

  • Sut y gellir gwneud adeiladau’r Cynulliad yn fwy hygyrch?

  • Ym mha ffyrdd y gallai’r Cynulliad wneud mwy i ymgysylltu â chymunedau a grwpiau lleiafrifol amrywiol yng Nghymru?

  • Pa fathau o ddigwyddiadau y dylai’r Cynulliad eu cynnal / fynd iddynt i herio gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin perthynas dda â gwahanol bobl?

  • Beth y credwch sy’n atal pobl rhag cymryd mwy o ran yng ngwaith y Cynulliad?

Ceir rhestr lawn o’r cwestiynau yma

a daw’r ymgynghoriad i ben ar 30 Tachwedd.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am gydraddoldeb:

“Un o brif flaenoriaethau’r Cynulliad yw sicrhau ein bod yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ehangu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd.

“Mae’r Cynulliad am barhau i fod yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth, felly rydym yn gwahodd y cyhoedd a sefydliadau cynrychioliadol i ddweud eu dweud.”

Mae adroddiad cydraddoldeb blynyddol y Cynulliad ar gyfer 2010 ar gael yma.

Gellir anfon ymatebion hefyd at:

Ross Davies

Rheolwr Cydraddoldeb

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

Ffôn: 029 2089 8197Ffacs: 029 2089 8670

Ffôn Testun: 029 2089 8601EqualitiesTeam@wales.gov.uk