Dweud eich dweud, Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd 16/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Dweud eich dweud, Gogledd Cymru

16 Hydref 2009

Bydd bws teithio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd allan ar y ffordd eto ac rydym eisiau clywed gennych chi.

Bydd yn ymweld â’r naw etholaeth o fewn rhanbarth gogledd Cymru dros y mis nesaf ac yn rhoi cyfle i bobl ganfod sut mae’r Cynulliad yn gweithio a beth y gall ei wneud i wella eu bywydau.

Gall ymwelwyr ddysgu mwy am eu Haelodau Cynulliad lleol a’r ymchwiliadau niferus y mae pwyllgorau craffu a phwyllgorau deddfwriaeth y Cynulliad yn eu cynnal ar hyn o bryd.

Bu’r bws yn teithio o gwmpas Gogledd Cymru ers iddo gael ei lansio ym mis Mai, gan roi cyfle i bobl mewn cymunedau anghysbell ymgysylltu â’r Cynulliad. Mae’n cynnal sesiynau pwyllgor a gall gasglu tystiolaeth fideo gan awdurdodau a’r cyhoedd i’w defnyddio mewn ymchwiliadau pwyllgor.

Mae hefyd yn ymweld ag ysgolion i hysbysu disgyblion ynghylch gwaith y Cynulliad a’r broses ddemocrataidd yng Nghymru.

Nodiadau i’r golygyddion:

Dyma amserlen lawn taith bws y Cynulliad:

20 Hydref – Conwy – maes parcio Stryd Rosehill

21 Hydref – Abergele – maes parcio’r llyfrgell

24/25 Hydref – Gwledd Conwy

28 Hydref – Caernarfon - Y Maes

29 Hydref – Llangefni – maes parcio neuadd y dref

3 Tachwedd – Llangollen – maes parcio Stryd y Farchnad

10 Tachwedd - Wrecsam - Sgwâr y Frenhines

17 Tachwedd – Rhyl – maes parcio Ffordd Morley

24 Tachwedd – Queensferry – maes parcio Asda

25 Tachwedd – Yr Wyddgrug – maes parcio Stryd Newydd

Bydd y bws yn agored i ymwelwyr rhwng 10am a 4pm.

Dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth ym mws Cynulliad Cenedlaethol Cymru anfon e-bost at OutreachBus@wales.gsi.gov.uk neu ffonio 0845 010 5500.