A ydych eisiau rhywbeth i’w wneud gyda’r teulu ar Ddydd Gŵyl Dewi? Dewch i’r Senedd ym Mae Caerdydd Ddydd Sul 1 Mawrth i gael diwrnod allan i’r teulu am ddim.
Bydd cacen gri neu bara brith AM DDIM wrth brynu diod boeth. Darperir adloniant cerddorol, gan gynnwys: perfformiad gan Bone Appétit, pedwarawd trombôn o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a perfformiad gan ddau gôr, Ysgol Gymraeg Ynyswen ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda.
Bydd yna hefyd weithgareddau celf a chrefft i blant a bydd Dewi’r Ddraig yn ôl i roi croeso cynnes i bawb i’r Senedd.
Edrychwn ymlaen at weld eich gwisg Gymreig draddodiadol!