Dyfarnu Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor i'r Senedd

Cyhoeddwyd 11/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae'r Senedd wedi sicrhau Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor. Mae'r wefan yn dyfarnu'r dystysgrif i atyniadau sy'n "ennyn adolygiadau gwych gan ymwelwyr yn gyson".

Gyda mwy na 80 o adolygiadau "rhagorol" neu "dda iawn" yn canmol staff y Cynulliad a'i  bensaernïaeth nodedig, mae adeilad y Senedd yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd yn rheolaidd.

"Rydym wrth ein bodd yn derbyn Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor," dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd.

"Mae adeilad eiconig y Senedd yn cynrychioli calon democratiaeth a datganoli yng Nghymru. Mae hygyrchedd, tryloywder a chynaliadwyedd yn egwyddorion sydd wrth wraidd yr adeilad ac yr wyf yn falch ein bod wedi cael ein cydnabod mewn ffordd mor gadarnhaol ".

Y Senedd, a agorwyd yn swyddogol gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2006, yw prif adeilad cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ei chynllun unigryw yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd ac yn 2012 croesawodd y Senedd ei miliynfed ymwelydd.

Cafodd ei chynllunio gan benseiri Rogers Stirk Harbour and Partners i fod yn dryloyw ac yn hygyrch i'r cyhoedd tra'i bod hefyd yn un o'r adeiladau seneddol mwyaf amgylcheddol-gyfeillgar yn y byd.

Mae cymwysterau amgylcheddol y Senedd wedi arwain at nifer o wobrau, gan gynnwys tystysgrif "ardderchog" llawn bri o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM), y dystysgrif gyntaf i gael ei dyfarnu yng Nghymru.

Mae'r cynllun hefyd wedi cyfrannu at arbediad gros o fwy na £100,000 i'r Cynulliad Cenedlaethol oherwydd mesurau effeithlonrwydd ynni, yn ogystal â lleihau ei allyriadau carbon.

Bu anrhydeddau pensaernïol yn ogystal, gyda'r Senedd yn ennill un o Wobrau'r Ymddiriedolaeth Ddinesig yn 2008, Gwobr Ryngwladol Darllenfa Chicago yn 2006 a gwobr genedlaethol gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain y flwyddyn honno hefyd.

Ychwanegodd Tirion Hope-Brown, Rheolwr Cyswllt Cyntaf y Cynulliad, "Rwy'n falch iawn o'm staff.  Ni yw senedd Cymru ac rydym yn ymfalchïo mewn rhoi croeso o'r radd flaenaf. Mae'r llwyddiant hwn yn ymdrech tîm gan bawb, o'r staff Blaen Tŷ i'n cydweithwyr sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni, gallwn i gyd fod yn falch iawn".

Gall ymwelwyr fwynhau taith am ddim, gwylio'r cyffro gwleidyddol fel y mae'n digwydd yn y Siambr neu gael paned yn y caffi. Mae'r Senedd hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gyda pherfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau sy'n digwydd trwy gydol y flwyddyn. Mae'r adeilad ar agor saith diwrnod yr wythnos fel arfer, ond edrychwch ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn teithio i wneud yn siŵr ei fod ar agor. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i'r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen we Trip Advisor Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tudalen Facebook y Senedd

Rosemary Butler AC, y Llywydd a staff y Cynulliad yn y Senedd yn arddangos y tystysgrifau