Dyfodol datganoli o dan y chwyddwydr yn yr Eisteddfod.

Cyhoeddwyd 07/08/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dyfodol datganoli o dan y chwyddwydr yn yr Eisteddfod.

Bydd cyfle i ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol i ddysgu mwy am ddyfodol datganoli yng Nghymru ddydd Gwener, 8 Awst am 2.30pm.

Bydd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn cynnal sesiwn holi ac ateb yn stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â dau aelod arall o’r Bwyllgor Gweithredol y Confensiwn, Nick Bennett ac Aled Edwards.

Bwriad Confensiwn Cymru Gyfan yw paratoi’r ffordd ar gyfer refferendwm posibl ar bwerau deddfu llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd yn ymgynghori’n helaeth â phobl Cymru, gan hwyluso’r drafodaeth ynghylch llwyddiannau’r grymoedd sydd eisoes ar gael i’r Cynulliad Cenedlaethol a’r achos posibl dros symud tuag at bwerau deddfu llawn i’r Cynulliad.

Nodiadau

  • Ar hyn o bryd, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru basio deddfau, a elwir yn Fesurau, mewn meysydd portffolio polisi datganoledig penodol, a elwir yn Faterion. Gellir ychwanegu Materion newydd gyda chytundeb Senedd y DU drwy gyfrwng Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Gall y Cynulliad gynyddu portffolios y meysydd polisi yn raddol ar sail achosion unigol. Y dull hwn yw’r hyn a nodir yn Rhan 3 ac Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

  • Mae'n bosibl y ceir proses lle byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn ennill pwerau deddfu llawn mewn pecyn o feysydd polisi datganoledig, a fyddai'n trosglwyddo'n awtomatig i'r Cynulliad Cenedlaethol pe bai pobl Cymru yn pleidleisio o blaid eu trosglwyddo mewn refferendwm. Byddai hyn yn golygu na fyddai angen caniatâd Senedd y DU mwyach ar sail achosion unigol. Nodir hyn yn rhan 4 ac Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006,

  • Rhagor o wybodaeth am Gonfensiwn Cymru Gyfan