Dylai datblygiadau tai newydd fod yn barod ar gyfer cerbydau trydan yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 03/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/10/2019

Dylai datblygiadau preswyl newydd yng Nghymru gynnwys darpariaethau ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn ôl Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol.


Mae wedi bod yn edrych ar y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan presennol, yn ogystal â gofynion y dyfodol.

Mae mwy a mwy o geir a faniau trydan yn cael eu gwerthu ar draws y DU ac, am fod y gallu i gwblhau taith gyfan yn dod yn llai o broblem gyda cherbydau trydan yn gallu teithio'n llawer pellach, roedd y Pwyllgor am wybod beth oedd cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau na fydd y galw'n fwy na'r capasiti.

Mae polisi a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau dibreswyl newydd neilltuo o leiaf ddeg y cant o leoedd parcio ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn. Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai hyn hefyd fod yn gymwys i ddatblygiadau preswyl gyda darpariaeth i gynyddu canran y lleoedd wrth i gerbydau trydan ddod yn fwy cyffredin.

Mae'r Pwyllgor hefyd am weld cyfathrebu gwell rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r cyhoedd i roi gwybod iddynt am y cynnydd diweddaraf gyda'r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo dwy filiwn o bunnau ar gyfer gwelliannau i'r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig; a nododd y Pwyllgor ei bod yn fwy tebygol y caiff cyfle ei golli os caiff mannau gwefru eu gadael i rymoedd y farchnad yn unig.

"Wrth i'r farchnad cerbydau trydan ehangu, mae'n amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses ar frys er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn gallu ymdopi," dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Bydd cyfathrebu â rhanddeiliaid a phobl Cymru yn rhan hanfodol o ddarparu'r rhwydwaith hwn.

"Rydym hefyd yn credu y gall y seilwaith cerbydau trydan ddod yn sefydlog os yw'r llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl ddatblygiadau preswyl newydd neilltuo mannau parcio ar gyfer cerbydau trydan, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda mannau dibreswyl."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylid ymestyn y gofyniad ym Mholisi Cynllunio Cymru 10 sy'n nodi y dylai datblygiadau dibreswyl newydd fod â phwyntiau gwefru mewn o leiaf 10% o'r lleoedd parcio sydd ar gael, i gynnwys datblygiadau preswyl. Dylid hefyd ystyried cynyddu canran y lleoedd parcio gyda mannau gwefru wrth i gerbydau trydan ddod yn fwy cyffredin;
  • Mae polisïau a dyheadau Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at y cyfeiriad cywir, ac er y bu diffyg gweithgaredd canfyddedig hyd yn hyn, gallai hyn greu cyfleoedd i ddysgu o'r hyn sy'n gweithio mewn mannau eraill. Mae'n hanfodol nawr bod y strategaeth wefru a addawyd yn cael ei chyflawni yn 2020, a'i chefnogi gan gyfalaf ariannol a gwleidyddol digonol i sicrhau y gellir troi gweledigaeth y Gweinidog yn realiti yn ddi-oed;
  • Mae'n hanfodol bod caffael rhwydwaith Gwefru Cerbydau Trydan dan arweiniad TfW yn dysgu gwersi gan Cyflymu Cymru (h.y. peidio â gwneud gormod o addewidion, cyfathrebu'n effeithiol, a sicrhau, lle mae buddsoddiad cyhoeddus yn creu elw preifat, bod mecanwaith i rannu'r budd hwnnw a chynyddu cwmpas yr ymyrraeth).

Bellach, bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a. Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan (PDF, 1 MB)