Dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei chydnabod yn iaith gyntaf llawer o blant byddar yng Nghymru

Cyhoeddwyd 05/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/10/2018

Dylai Iaith Arwyddion Prydain, neu BSL, gael ei chydnabod yn iaith gyntaf llawer o blant byddar yng Nghymru, a chael ei chefnogi'n well, yn ôl Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mam a babi

Bu'n ystyried deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i addysg a gwasanaethau BSL er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oed.

Deffo! Cymru, fforwm ar gyfer pobl ifanc byddar yng Nghymru, gyflwynodd y ddeiseb. Yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, mae 2,642 o blant byddar yng Nghymru ac mae ffigurau'r Llywodraeth yng Nghymru'n dangos bod 3,116 o ddisgyblion â nam ar eu clyw yn ysgolion Cymru.

Dywedodd un person ifanc o Deffo! wrth y pwyllgor ei fod wedi symud i Gymru o Loegr a'i fod wedi cael sioc o weld ei bod hi'n llawer anoddach cael gafael ar wasanaethau a chymorth nag yr oedd hi yr ochr arall i'r ffin.

Roedd tystiolaeth arall yn awgrymu fod dosbarthiadau BSL yn cael eu canslo yn ystod cyfnodau o gyni ariannol. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod BSL yn iaith leiafrifol, mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid trin BSL fel iaith gyntaf nifer o blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Deisebau mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol oedd penderfyniadau ynghylch y cymorth a'r adnoddau a gynigir i bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru.

Felly, mae aelodau'r Pwyllgor wedi argymell bod siarter genedlaethol yn cael ei llunio ar gyfer darparu gwasanaethau, gan gynnwys addysg, i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd. Byddai hyn yn galluogi Awdurdodau Lleol i gynllunio'r cymorth a'r adnoddau drwy gyfeirio at fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol, a bydd hynny'n helpu i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ledled Cymru.

"Diolch yn fawr i'r deisebwyr am dynnu'n sylw at y mater pwysig hwn," meddai David Rowlands AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

"Rydyn ni'n credu ei bod yn hanfodol bod teuluoedd plant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw yn cael cyfle i ddysgu sut i gyfathrebu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain.

"Rydyn ni'n cydnabod mai cyfrifoldeb yr Awdurdodau Lleol a'r Colegau Addysg Bellach yw penderfynu ar eu blaenoriaethau gwariant eu hunain, ond rydyn ni o'r farn y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i arwain awdurdodau lleol i drin BSL fel iaith angenrheidiol, yn hytrach nag ymateb i angen meddygol. Gallai hynny fod yn help i ail-fframio'r sgwrs am ddarpariaeth ddigonol."

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi crynodeb o'i adroddiad ar Iaith Arwyddion Prydain ac mae'n gwneud pedwar argymhelliad:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac yn annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar wrth ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd;

  • Bod pob plentyn ar bob lefel o addysg yn cael cyfle i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain, a bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried creu TGAU iaith arwyddion fel iaith gyntaf gyda Cymwysterau Cymru; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cynllunio'r gweithlu o ran athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau'n gynaliadwy. 

    Casglodd y ddeiseb 1,162 o lofnodion trwy gyfuniad o ddeisebau papur a system ar-lein y Cynulliad.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod adroddiad y Pwyllgor.