Dylai Llywodraeth Cymru geisio pwerau ychwanegol ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol, yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 29/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dylai Llywodraeth Cymru geisio pwerau ychwanegol ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol, yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad

29 Awst 2013

Mae un o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi datgan y dylai Llywodraeth Cymru geisio pwerau ychwanegol ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol.

Yn ystod ei ymgynghoriad, clywodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin â chydraddoldeb mewn ffordd wahanol i'r hyn a wneir yn Lloegr.

Canfu hefyd, er bod rhai meysydd o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ynghylch y sector cyhoeddus wedi'u datganoli i Gymru, y gallai rhai cyfreithiau a wneir yn y meysydd hyn fethu'n awtomatig pe bai Llywodraeth y DU yn dewis diddymu Deddf Cydraddoldeb 2010 ar unrhyw adeg.

Mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch y toriad arfaethedig yn yr arian ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar lefel y DU ac mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyfrannu ei harian ei hun, yn enwedig i gefnogi gwaith y Comisiwn o fonitro a gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb yng Nghymru.

Penderfynodd y Pwyllgor hefyd y byddai'n cwrdd â'r Comisiwn bob blwyddyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei waith ac unrhyw faterion cysylltiedig.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Prif ddiben y penderfyniad i geisio cael rhagor o bwerau dros faterion cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yw gwarchod y gwaith a wnaed eisoes gan y Comisiwn, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cysylltiedig eraill ar gael gwared ar ragfarn a gwahaniaethu yng Nghymru, ac i gydnabod y ceir dulliau gwahanol o ymdrin â'r materion hyn yng Nghymru a Lloegr.

“Hoffai'r Pwyllgor weld perthynas gryfach a mwy ffurfiol rhwng y Comisiwn, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, ac mae wedi penderfynu cwrdd â’r Comisiwn bob blwyddyn i drafod ei waith.


“Credwn hefyd fod achos i Lywodraeth Cymru ariannu gwaith y Comisiwn o fonitro a gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 8 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru sefydlu concordat neu gytundeb i greu perthynas fwy ffurfiol rhyngddynt wrth ymdrin â meysydd polisi datganoledig.

  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ariannu agweddau penodol ar waith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn enwedig gwaith yn ymwneud â monitro a gorfodi'r dyletswyddau cydraddoldeb yng Nghymru.

  • Dylai Llywodraeth Cymru geisio pwerau ychwanegol ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol a fyddai'n adeiladu ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i ddyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.