Dylai newyddion Cymru fod yn amod o dan reoliadau trwydded radio masnachol

Cyhoeddwyd 17/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/12/2018

Dylai newyddion am Gymru fod yn un o'r prif amodau wrth ddyfarfnu trwyddedau radio masnachol lleol, yn ôl Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae am i'r Adran y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) gyflwyno rheoliadau i sicrhau bod gorsafoedd masnachol lleol sy'n darlledu yng Nghymru yn cynnwys newyddion neilltuol i Gymru ochr yn ochr â chynnwys lleol a chynnwys am y DU.

O ran refeniw’r pen, y farchnad hon yw'r isaf o wledydd y DU. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad felly ei bod yn annhebygol y byddai'r farchnad yn sbarduno buddsoddiad i sicrhau bod gwrandawyr yn ymwybodol o faterion Cymreig a materion cyfoes Cymru.

Mae'r DCMS wrthi'n ystyried cynigion i ddadreoleiddio diwydiant radio masnachol y DU, gan ei gwneud yn haws i orsafoedd newid fformatau, y gerddoriaeth a chwaraeir, a'r safleoedd y darlledir ohonynt.

Ar hyn o bryd, gorsafoedd rhwydwaith y BBC, gan gynnwys Radio 1 a Radio 2, sydd â chyfran helaeth o’r farchnad, gan gyfrif am bron i hanner yr holl wrandawyr radio yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor yn galw ar i’r BBC ymchwilio i opsiynau at gyfer darparu gwasanaeth optio allan i Gymru a blaenoriaethu buddsoddiad er mwyn goresgyn y rhwystrau technegol presennol i hynny.

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn adnodd gwerthfawr i gymunedau lleol ledled y wlad ac mae'r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru ystyried ailagor ei chronfa Radio Gymunedol. Mae hefyd am i gyrff cyhoeddus wario mwy o'u refeniw marchnata a hysbysebu i helpu i gefnogi gorsafoedd radio cymunedol.

"Rydym o'r farn y dylai gorsafoedd radio sy'n darlledu yng Nghymru fod â gogwydd Cymreig," meddai Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Maent yn dal i fod yn bwysig o ran sut mae pobl yn dysgu am yr hyn sy'n digwydd yn y byd neu yn eu milltir sgwâr, ond yr ydym am weld rheoliadau newydd yn cael eu cyflwyno i helpu pobl i ddeall yn well yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru a sut mae'n effeithio ar eu bywydau.

"Mae gan y BBC y gyfran fwyaf o'r farchnad trwy ei orsafoedd rhwydwaith. Hoffem weld ymchwilio pellach i sut y gellir darparu gwasanaeth optio allan i Gymru a beth sydd angen ei wneud i oresgyn y rhwystrau i hynny.

"Mae gan orsafoedd radio cymunedol rôl werthfawr i'w chwarae i bob math o bobl ledled y wlad. Mae cefnogi'r gorsafoedd hyn yn allweddol i sicrhau bod cynnwys amrywiol a pherthnasol ar gael i gymunedau lleol, a dyna pam ein bod o'r farn y gallai cyrff cyhoeddus ddefnyddio'u gwariant marchnata a hysbysebu yn fwy eang."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylai'r DCMS ystyried cyflwyno gofyniad rheoleiddiol ar gyfer gorsafoedd radio masnachol yng Nghymru i adrodd ar newyddion Cymreig yn arbennig, yn ogystal â newyddion lleol a'r DU fel rhan o'i ddiwygiad o radio masnachol;

  • Dylai'r BBC fynd ar drywydd rhagor o opsiynau sydd ar gael iddo er mwyn darparu gwasanaethau newydd i ryddhau gwasanaethau radio rhwydwaith Cymru a dylent flaenoriaethu buddsoddiad i helpu i oresgyn y materion technegol sy'n atal hyn; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r gorsafoedd Radio Cymunedol ar gyfer mwy o'i hybysebiadau, yn enwedig ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus. Dylai hefyd ddarparu canllawiau i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i'w hannog i ddefnyddio a gweithio gyda gyda gorsafoedd radio cymunedol fel llwyfan cyfathrebiadau ac ymgysylltu.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Ar yr un donfedd: Ymchwiliad i Radio yng Nghymru (PDF, 902 KB)