- Dylai’r BBC ariannu trefniant eithrio ar gyfer newyddion o Gymru ar Radio 1 a Radio 2;
- Ni ddylai fod rhagor o doriadau i gyllid S4C hyd nes y bydd adolygiad arfaethedig wedi'i gwblhau;
- Dylai ITV Studios fod yn fwy rhagweithiol wrth ddatblygu rhaglenni sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru ar gyfer rhwydwaith y DU.
Dylai'r BBC wario £30 miliwn yn ychwanegol ar ddramâu Saesneg a darlledu am Gymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn edrych ar y diwydiant cyfryngau darlledu yng Nghymru a sut y mae'n gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU.
Daeth hefyd i'r casgliad y dylid cael trefniant eithrio ar gyfer newyddion o Gymru ar Radio 1 a Radio 2, i adlewyrchu'n well yr hyn sy'n digwydd yng nghymdeithas Cymru.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, cytunodd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, fod angen pecyn ariannu gwell ar Gymru, ond nid oedd mewn sefyllfa i ddweud faint ar y pryd. Addawodd wneud hynny yn gynnar yn 2017.
Argymhelliad arall yw na ddylai fod unrhyw doriadau i gyllid y darlledwr Cymraeg S4C hyd nes bod canlyniadau adolygiad arfaethedig yn hysbys ac wedi’u hystyried.
Nododd y Pwyllgor fod cyllid y sianel wedi gostwng mwy na thraean mewn termau real ers 2010, a bod y lefel uchel iawn o ailddarllediadau, a amcangyfrifir yn 57 y cant, yn achos pryder mawr.
Clywodd yr Aelodau hefyd am lwyddiant cyfyngedig, diweddar ITV Cymru wrth sicrhau comisiynau i gynhyrchu rhaglenni rhwydwaith ITV, ond maent am weld agwedd fwy rhagweithiol.
Daethant i’r casgliad fod dull y sianel o gomisiynu wedi methu â thynnu sylw pobl at gyfoeth cymunedau Cymru a bod agweddau sylweddol ar fywyd yng Nghymru nad ydynt yn cael eu portreadu naill ai ar rwydwaith ITV neu ar ITV Cymru.
"Mae ein hadroddiad yn giplun o'r diwydiant darlledu fel ag y mae yng Nghymru a bydd yn sylfaen ar gyfer ymchwiliadau mwy manwl yn y dyfodol," meddai Bethan Jenkins AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
"Yr hyn sy'n amlwg, fodd bynnag, yw bod Cymru yn colli allan ar gyllid y BBC ar gyfer rhaglenni Saesneg eu hiaith sy’n canolbwyntio ar Gymru. Roeddem yn falch o glywed gan Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, y byddai mwy o arian ar gael, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gyhoeddiad sydd i ddod ar y mater hwn.
"Rydym hefyd yn credu y dylai gorsafoedd blaenllaw fel Radio 1 a Radio 2 gyflwyno trefniant eithrio ar gyfer newyddion o Gymru i adlewyrchu bywyd yng Nghymru yn well. Unwaith eto, mae'r Pwyllgor yn falch i glywed fod hwn yn fater sy’n cael ei ystyried o ddifrif.
"Mae'r lefel uchel o ailddarllediadau ar S4C yn achos pryder ac o ganlyniad uniongyrchol i doriadau cyllido ar raddfa fawr, a dyna pam na hoffem weld gostyngiadau pellach tan y caiff canlyniadau'r adolygiad arfaethedig eu cyhoeddi. Cyn bo hir, byddwn yn cynnal ein hymchwiliad ein hunain i ddyfodol S4C, y byddwn yn ei gynnwys yn adolygiad Llywodraeth y DU.
"Mae ITV Cymru wedi cael rhywfaint o lwyddiant diweddar gan sicrhau comisiynau rhwydwaith ITV. Hoffem weld hyn yn parhau gydag ymagwedd fwy rhagweithiol i adlewyrchu cymunedau Cymru ledled y DU. "
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, a fydd nawr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w ystyried.